Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 25 Hydref 2023

Penodol i Gymru

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yn Aberystwyth, ddydd Mercher 25 Hydref 2023. Bydd yn gyfarfod â thema, yn canolbwyntio ar Wyddoniaeth ac Arloesedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 October 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 October 2023

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr Prifysgol Aberystwyth ar raglenni a phrosiectau sy’n cefnogi’r system fwyd. 

Mae’r agenda’n cynnwys

  • Dr Rebecca Charnock yn trafod sut mae ArloesiAber yn mynd ati i gefnogi datblygiad a thwf
  • Dr Catherine Howarth yn siarad am y rhaglen bridio ceirch a chodlysiau grawn
  • Cyflwyniad i’r rhaglen Ansawdd Bwyta Cig Eidion gan Dr Pip Nicholas-Davies
  • Golwg ar Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth a dyfodol y proffesiwn, gyda’r Athro Darrel Abernethy
     

Mae’r agenda lawn i’w gweld ar dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ein gwefan.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pynciau hyn, neu yng ngwaith yr ASB yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod i fynegi barn ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored.

Gallwch fod yn bresennol wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae modd cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod. 

Manylion am y lleoliad

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn ArloesiAber, Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, Campws Gogerddan, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3EE.

Bydd modd cofrestru a chael paned o 09:30 cyn i’r cyfarfod ddechrau’n brydlon am 10:00.

Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau

Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn cadw lle i gymryd rhan yn y cyfarfod naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.