Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 6 Chwefror 2024

Penodol i Gymru

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 6 Chwefror 2024. Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar thema benodol, sef diwygio Cynhyrchion Rheoleiddiedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 January 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 January 2024

Mae’r agenda’n cynnwys

  • Cyflwyniad i waith diwygio Cynhyrchion Rheoleiddiedig
  • Cyflwyniad a thrafodaeth am ddiwygio sylfaenol

Mae’r agenda lawn i’w gweld ar dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ein gwefan.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pynciau hyn, neu yng ngwaith yr ASB yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod i fynegi barn ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored.

Gallwch fod yn bresennol wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae modd cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod. 

Manylion am y lleoliad

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn adeiladau Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar-lein drwy MS Teams.

Bydd modd cofrestru a chael paned o 9am cyn i’r cyfarfod ddechrau’n brydlon am 9.15am.

Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau

Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn cadw lle i ddod i’r cyfarfod wyneb yn wyneb neu wylio ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.