Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 8 Chwefror 2023

Penodol i Gymru

Bydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yng Nghaerdydd ddydd Mercher, 8 Chwefror 2023. Cyfarfod hybrid fydd hwn ar thema Gweithrediadau Hylendid Cig yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 January 2023

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan Geraint Jones, Rheolwr Ardal, Gweithrediadau’r ASB yng Nghymru a Delyth Murray-Lines, Pennaeth Polisi Hylendid, yr ASB yng Nghymru.

Mae’r agenda’n cynnwys:

  • Trosolwg o weithrediadau maes yr ASB yng Nghymru
  • Hylendid cig ac agweddau gweithredol ar y maes polisi

Mae copi o’r agenda lawn i’w gweld ar y dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru ddod i’r cyfarfod i fynegi barn ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored. 

Gallwch fod yn bresennol wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae modd cyflwyno cwestiynau i’r pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.

Lleoliad

Cynhelir y cyfarfod yn Swyddfa’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

Bydd modd cofrestru a chael paned o 13:45 cyn bod y cyfarfod yn dechrau’n brydlon am 14:00.

Archebu eich lle a chyflwyno cwestiynau

Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn archebu lle i gymryd rhan yn y cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu i gael rhagor o wybodaeth.