Newyddion
Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 9 Mawrth 2021
Bydd cyfarfod mis Mawrth y Bwrdd yn cael ei gynnal o 9.30am heddiw.
Oherwydd pandemig COVID-19, bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein yn unig. Cadeirydd dros dro yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Ruth Hussey, fydd yn cadeirio. Gallwch chi gofrestru i wylio ar-lein.
Mae'r agenda'n cynnwys diweddariadau ar:
- Adroddiad Blynyddol gan Gadeirydd y Cyngor Gwyddoniaeth
- Diweddariad ar Gyfnod Pontio’r Undeb Ewropeaidd
- Rheoli Risg Strategol
Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein. Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
Ffôn: 01772 767731
E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk