Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mawrth 2022

Bydd cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Mawrth 2022 yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 March 2022

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn The Exchange, Birmingham, a bydd yn cael ei gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 9 Mawrth 2022. Bydd cyfarfod y Bwrdd yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb, fodd bynnag gallwch chi hefyd gofrestru i wylio’r cyfarfod ar-lein. 

  • Lansio Strategaeth yr ASB
  • Mewnforion o Fukushima
  • Adroddiad Blynyddol gan Gadeirydd y Cyngor Gwyddoniaeth
  • Adolygiad Blynyddol o'r Broses Dadansoddi Risg

Bydd diweddariad ar y Rhaglen Trawsnewid Gweithredol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Busnes yn y prynhawn.

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod Bwrdd mis Mawrth 2022 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd a’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol, yn unol â chanllawiau Covid. Yn ogystal, gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01772 767731

E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk

COVID-19 a Chyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2022

Rydym ni’n croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol unwaith eto yng nghyfarfod agored y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes am y tro cyntaf ers i reolau Covid olygu bod yn rhaid ymuno â’r cyfarfodydd hyn yn rhithiol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ffrydio’r cyfarfod yn fyw i’r rhai na allant fod yn bresennol.
 
Mae manylion amserlen y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.