Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mawrth 2023

Mae cyfarfod mis Mawrth 2023 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 March 2023

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Manceinion, a’i gadeirio gan gadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb. Mae dal amser i chi gofrestru i wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
  • Cynllun Corfforaethol Tair Blynedd
  • Adroddiad Blynyddol y Cyngor Gwyddoniaeth
  • Y Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC)
  • Diweddariad ar y broses dadansoddi risg a’r gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig
  • Rheoli risg strategol

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod Bwrdd mis Mawrth 2023 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd a’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol. Gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen cymorth arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cyflwyno cwestiwn

Rhaid cyflwyno cwestiynau sy’n ymwneud â phapurau Bwrdd yr ASB cyn 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd.

I weld y cwestiynau a ddaeth i law’r ASB cyn y dyddiad cau, ewch i’n tudalen Bwrdd.