Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mawrth 2024

Bydd cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer mis Mawrth 2024 yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 March 2024

Cynhelir y cyfarfod yn Leeds, dan arweiniad cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Mae dal amser i chi gofrestru i’w wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys: 

  • clefydau a gludir gan fwyd
  • bridio manwl
  • diweddariad ar ddiwygio cynhyrchion rheoleiddiedig
  • rheoli risg strategol
  • adolygiad llywodraethu

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2024 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd a’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol. Gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cwestiynau i’r Bwrdd

I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.