Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mawrth 2026
Bydd cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Mawrth 2026 yn cael ei gynnal heddiw am 9am.
Cynhelir y cyfarfod yn Weymouth, dan arweiniad Cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb. Mae dal amser i chi gofrestru i’w wylio ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Diweddariad y rhaglen: Sut mae’r ASB yn paratoi ar gyfer Cytundeb SPS rhwng y DU a’r UE
- Y Rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’
- Targedau Bwyd Iachach a’r trefniadau ar gyfer adrodd amdanynt
- Clefydau a Gludir gan Fwyd – Diweddariad
- Adroddiad terfynol o Adolygiad Effeithiolrwydd Allanol Bwrdd yr ASB
- Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC)
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael drwy dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2026 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cofrestru i fod yno’n bersonol.
Os nad ydych wedi cofrestru eto, gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein o hyd.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@onetwo.agency
Cwestiynau i’r Bwrdd
I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.