Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Medi 2023

Mae cyfarfod mis Medi 2023 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 September 2023

Cynhelir y cyfarfod yn Southampton, gyda chadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, yn cadeirio. Mae dal amser i gofrestru i’w wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys: 

  • Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 
  • Diweddariad Blynyddol ar Les Anifeiliaid – 2022/23 
  • Adroddiad Blynyddol ar Ddigwyddiadau a Gwydnwch – 2022/23 
  • Diweddariad ar y Broses Dadansoddi Risg a’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan. 

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd 

Mae cyfarfod Bwrdd mis Medi 2023 yn gyfarfod agored, a gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni: 

Cwestiynau i’r Bwrdd

I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.