Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mehefin 2022

Bydd cyfarfod mis Mehefin 2022 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 June 2022

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn The Core yn Newcastle, a bydd yn cael ei gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 15 Mehefin 2022. Bydd cyfarfod y Bwrdd yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb; fodd bynnag gallwch chi hefyd gofrestru i wylio’r cyfarfod ar-lein.

Mae’r agenda’n cynnwys:

  • Ymateb yr ASB i Darfu ar y Gadwyn Gyflenwi oherwydd y Rhyfel yn Wcráin: Amnewid Cynhwysion a Labelu
  • Gorsensitifrwydd i Fwyd – diweddariad ar ffrydiau gwaith a’r camau nesaf a argymhellir 
  • Diffyg Diogeledd Bwyd yn y Cartref 
  • Y Bil Technoleg Genetig (Bridio Manwl)

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan.

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod Bwrdd mis Mehefin 2022 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd ac aelodau’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol, yn unol â chanllawiau Covid-19. Yn ogystal, gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cyflwyno cwestiwn

Gallwch gyflwyno cwestiynau i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd hyd at hanner dydd, 14 Mehefin drwy anfon e-bost i board.sec@food.gov.uk.

Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar 15 Mehefin, yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig.

Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.

COVID-19 a Chyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2022

Rydym yn croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol unwaith eto yng nghyfarfod agored y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes am yr ail dro ers i reolau Covid beri bod rhaid ymuno â’r cyfarfodydd hyn yn rhithiol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ffrydio’r cyfarfod yn fyw i’r rhai na allant fod yn bresennol. 

Mae manylion amserlen y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.