Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Rhagfyr 2025
Mae cyfarfod mis Rhagfyr 2025 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael ei gynnal heddiw am 9am
Cynhelir y cyfarfod yn Reading, dan arweiniad Cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb. Mae dal i fod amser i gofrestru i’w wylio ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Gwerthuso’r drefn o ran rhoi gostyngiadau wrth godi tâl ar gig Cynigion ar gyfer System Gymorth Ddiwygiedig
- Safbwynt yr ASB ar Safon Labelu Alergenau Rhagofalus Codex gan gynnwys Trothwyon Alergenau
- Diweddariad Blynyddol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
- Diweddariad Cyfathrebu Blynyddol
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2025 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cofrestru i fod yno’n bersonol.
Os nad ydych wedi cofrestru eto, mae dal i fod amser i gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@onetwo.agency
Cwestiynau i’r Bwrdd
I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.