Cyfarfod Pwyllgor Busnes yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Medi 2022
Bydd cyfarfod mis Medi Pwyllgor Busnes yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael ei gynnal heddiw am 2.00pm.
Cynhelir Cyfarfod Pwyllgor Busnes yr ASB cyn cyfarfod Bwrdd yr ASB, a gynhelir ddydd Llun 26 Medi.
Mae’r ddau gyfarfod yn cael eu cynnal ar-lein yn unig, ar ôl cael eu gohirio yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Bydd cyfarfod y Pwyllgor Busnes yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb, a gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod ar-lein (Opens in a new window).
Mae agenda cyfarfod y Pwyllgor Busnes y prynhawn yma yn cynnwys:
- Adroddiad ar Berfformiad ac Adnoddau Chwarter 1 2022-23
- Proses Dadansoddi Risg: diweddariad i’r Pwyllgor Busnes
- Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig: diweddariad rheolaidd i’r Pwyllgor Busnes
- Adroddiad Blynyddol: Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, Cwynion Allanol ac Achosion Chwythu’r Chwiban Mewnol
- Adroddiad Blynyddol ar Ddigwyddiadau a Gwytnwch 2021/22
- Adroddiad Blynyddol ar Les Anifeiliaid 2021/22
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.
Sut i gofrestru i wylio cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes a’r Bwrdd ar-lein
Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes a’r Bwrdd ym mis Medi 2022 ar-lein, gyda dim ond aelodau’r bwrdd yn y cyfarfod ei hun. Mae modd cofrestru i wylio’r cyfarfodydd hyn yn fyw ar-lein (Opens in a new window).
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk
Mae modd cyflwyno cwestiynau am y papurau a fydd yn cael eu trafod yng nghyfarfod y Bwrdd ddydd Llun 26 Medi tan 12pm heddiw (Dydd Gwener 23 Medi) drwy anfon e-bost i Board.Sec@food.gov.uk