Cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar atchwanegiadau bwyd – 5 Chwefror 2026
Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf ym Mharc Cathays, Caerdydd ar 5 Chwefror 2026. Bydd y cyfarfod hybrid hwn yn canolbwyntio ar atchwanegiadau bwyd – y polisi a’r dirwedd gyflenwi.
Bydd y cyfarfod a’r trafodaethau’n cynnwys y canlynol:
- tirwedd defnyddwyr yng Nghymru
- y dirwedd polisi gyfredol a pherchnogaeth
- gorfodi
Mae’r agenda lawn i’w gweld ar dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ein gwefan.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y thema hon, a gwaith yr ASB yng Nghymru yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored ar ôl y trafodaethau.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer dod i’r cyfarfod hwn yn bersonol, ond mae croeso i’r rhai sydd â diddordeb ymuno ar-lein a chyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Lleoliad
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mharc Cathays, Caerdydd. Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei gynnal ar-lein drwy MS Teams. Bydd y cyfarfod yn dechrau’n brydlon am 10am.
Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau
Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn gwylio’r cyfarfod ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.