Cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) ar thema Bwyd Anifeiliaid – 4 Tachwedd 2025
Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yng Nghaerfyrddin ddydd Mawrth, 4 Tachwedd 2025. Cyfarfod â thema benodol fydd hwn a fydd yn canolbwyntio ar fwyd anifeiliaid. Bydd modd ymuno ar-lein hefyd.
Bydd y cyfarfod a’r trafodaethau’n cynnwys y canlynol:
- Cyflwyniad i fwyd anifeiliaid yng Nghymru
- Polisi Hylendid Bwyd Anifeiliaid yng Nghymru
- Cynnal rheolaethau swyddogol
Mae’r agenda lawn i’w gweld ar dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ein gwefan.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y thema hon, a gwaith yr ASB yng Nghymru yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored ar ôl y trafodaethau.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer dod i’r cyfarfod hwn yn bersonol, ond mae croeso i’r rhai sydd â diddordeb ymuno ar-lein a chyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Manylion am y lleoliad
Cynhelir y cyfarfod ym Melin Bwyd Anifeiliaid ForFarmers, Caerfyrddin. Fodd bynnag, mae nifer cyfyngedig o leoedd yn y felin ac felly, cynhelir y cyfarfod ar-lein hefyd drwy MS Teams. Bydd y cyfarfod yn dechrau’n brydlon am 10am.
Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau
Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn gwylio’r cyfarfod ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.
Hanes diwygio
Published: 20 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Hydref 2025