Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarwyddwr Materion Byd-eang yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi’i ethol yn Gadeirydd y corff gosod safonau bwyd rhyngwladol Codex Alimentarius

Etholwyd Steve Wearne, Cyfarwyddwr Materion Byd-eang yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn Gadeirydd Comisiwn Codex Alimentarius yn Geneva, y Swistir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 November 2021
Cyfarwyddwr Materion Byd-eang yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Steve Wearne

Mae Steve Wearne, Cyfarwyddwr Materion Byd-eang yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), wedi’i ethol yn Gadeirydd Comisiwn Codex Alimentarius (CAC) yn Geneva, y Swistir. Mae wedi bod yn Is-gadeirydd CAC ers 2017. 

CAC yw'r sefydliad sy'n datblygu safonau bwyd, canllawiau a chodau ymarfer byd-eang ar gyfer diogelwch ac ansawdd bwyd. Sefydlwyd y Comisiwn bron i 60 mlynedd yn ôl gan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Iechyd y Byd i ddiogelu iechyd defnyddwyr a hyrwyddo arferion teg yn y fasnach fwyd. 

Croesawodd Cadeirydd yr ASB, Susan Jebb, y canlyniad. Meddai: 

'Mae penodiad Steve yn bleidlais o ymddiriedaeth wirioneddol yn arweinyddiaeth y Deyrnas Unedig (DU) o ran rheoleiddio bwyd mewn modd modern, arloesol i gynyddu hyder defnyddwyr yn y bwyd rydym yn ei fwyta. Rwy'n falch iawn y bydd Steve yn ymgymryd â rôl mor arwyddocaol o ran meithrin consensws er mwyn gosod safonau ar gyfer bwyd yn fyd-eang.’

Canmolodd Prif Weithredwr yr ASB, Emily Miles, benodiad Steve gan ddweud:

'Mae hyn yn haeddiannol iawn. Rwy’n gwybod y bydd Steve yn dod â’i arbenigedd, ei ddeallusrwydd a’i arweinyddiaeth i’r comisiwn a’i waith i sicrhau bwyd diogel o ansawdd i bawb ym mhobman.’

Mae penodiad Steve wedi’i groesawu hefyd gan Lywodraeth y DU, gyda’r Gweinidog dros Ffermydd, Pysgodfeydd a Bwyd, Victoria Prentis AS, yn nodi:

'Rwy’n llongyfarch Steve am ei benodiad yn Gadeirydd Comisiwn Codex Alimentarius. Mae'r newyddion gwych hwn yn dyst i arweinyddiaeth fyd-eang barhaus y DU o ran safonau a rheoleiddio bwyd.

'Mae’r penodiad hwn yn haeddiannol iawn, a rwy’n gobeithio y bydd arbenigedd Steve yn parhau i ddylanwadu’n gadarnhaol ar waith pwysig y sefydliad.'
 

Victoria Prentis

Victoria Prentis

Meddai Steve Wearne:

'Mae'n anrhydedd enfawr cael fy ethol yn gadeirydd nesaf Comisiwn Codex Alimentarius, a bydd yn fraint parhau i wasanaethu ochr yn ochr â chydweithwyr ledled y byd i sicrhau bod bwyd diogel yn hawl y gallwn ni oll ei arddel. 

'Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth barhaus trwy gydol fy ymgyrch i gael fy ethol, ac yn benodol hoffwn roi cydnabyddiaeth i Catherine Brown, Jason Feeney ac Emily Miles, sef tri Phrif Weithredwr olynol yr Asiantaeth Safonau Bwyd sydd wedi hyrwyddo fy ngwaith yn Codex.'

‘Fy ymrwymiad fel darpar gadeirydd Comisiwn Codex Alimentarius yw bod yn ddiduedd a gweithio’n ddiflino i gyflawni Codex cynhwysol, tryloyw a chadarn sy’n cael ei barchu ledled y byd am ei ymrwymiad i safonau bwyd sy’n seiliedig ar gonsensws a gwyddoniaeth.’

Gallwch chi ddarllen gweledigaeth Steve Wearne ar gyfer Codex yn ei erthygl ar LinkedIn

Cynhelir etholiad tri is-gadeirydd newydd CAC yn ddiweddarach, ddydd Iau 11 Tachwedd.