Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi canlyniadau diweddaraf Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canfyddiadau ei Harolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr misol newydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 October 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 October 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Beth yw’r arolwg tracio?

Arolwg tracio misol yr ASB yw’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr, sy’n monitro newidiadau yn ymddygiad ac agweddau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Bob mis, cynhelir yr arolwg gyda thua 2,000 o oedolion (16 oed neu hŷn) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd wedi ymuno â phanel arolwg ar-lein YouGov.

Prif ganfyddiadau mis Medi

Ym mis Medi 2023, pan ofynnwyd i ymatebwyr pa mor bryderus oedden nhw am amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â bwyd, dyma’r materion a oedd yn peri pryder i’r nifer uchaf o ymatebwyr:

  1. Prisiau bwyd (90% yn bryderus)
  2. Tlodi bwyd ac anghydraddoldeb bwyd (76% yn bryderus)
  3. Bwyd wedi’i brosesu’n ormodol neu ei or-brosesu (75% yn bryderus)
  4. Lles anifeiliaid yn y diwydiant bwyd (72% yn bryderus)
  5. Pa mor iachus yw deiet pobl yn gyffredinol (71% yn bryderus)

Mae mwy o ganfyddiadau o’n Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr Medi 2023 ar gael ar ein gwefan.

    Cefndir

    Mae’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr yn ategu arolwg blaenllaw’r ASB, Bwyd a Chi 2, sy’n casglu data mwy cadarn bob dwy flynedd, gan fonitro ymddygiad ac agweddau defnyddwyr dros fwy o amser.  

    Mae’r mewnwelediadau hyn yn llywio gwaith ein llunwyr polisi a’n rhanddeiliaid, ac yn helpu’r ASB i weithredu er budd defnyddwyr.

    Mae’r ASB wedi bod yn cynnal arolygon misol gyda defnyddwyr ers mis Ebrill 2020. Yn dilyn adolygiad o’r arolwg a gynhaliwyd gan ein Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol, cafodd yr arolwg ei ailgomisiynu ddechrau 2023, gydag arolwg ar ei newydd wedd yn cael ei gyflwyno  ym mis Gorffennaf 2023. 

    Er bod rhai cwestiynau wedi aros yr un fath, oherwydd newidiadau yn y ffordd y cesglir y data, nid yw’n bosib gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng yr arolwg newydd (a gynhaliwyd o fis Gorffennaf 2023) ac arolygon cynharach. 

    Y camau nesaf

    Bydd canlyniadau bellach yn cael eu cyhoeddi’n fisol, a disgwylir i ganlyniadau mis Hydref gael eu cyhoeddi ganol mis Tachwedd.