Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Bwyd a Chi 2

Bwyd a Chi 2 yw ein harolwg ystadegyn swyddogol sy’n mesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau a nodwyd gan bobl o ran diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mawrth 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mawrth 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau
Os ydych wedi cael llythyr yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg Bwyd a Chi 2, ewch i wefan yr arolwg
 

Beth yw Bwyd a Chi 2?

Bwyd a Chi 2 yw ein harolwg ystadegyn swyddogol blynyddol a gynhelir gydag oedolion (16 oed neu hŷn) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r arolwg yn mesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau a nodwyd gan bobl o ran diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.

Mae Bwyd a Chi 2 yn defnyddio dull ‘gwthio-i'r-we’. Mae hyn yn golygu bod yr ymatebwyr, i ddechrau, yn cael llythyr drwy’r post yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Maent hefyd yn gallu llenwi fersiwn bapur o’r holiadur.

Y pynciau sy’n cael eu cynnwys yn arolwg Bwyd a Chi 2

Mae Bwyd a Chi 2 yn ymdrin â phynciau fel diogelwch bwyd yn y cartref, siopa bwyd, bwyta allan, diogeledd bwyd, pryderon am fwyd, ac ymddiriedaeth yn yr ASB a’r gadwyn cyflenwi bwyd.

Mae’r tabl canlynol yn rhoi rhestr o’r modiwlau a’r pynciau dan sylw:

Modiwl Pynciau dan sylw
Amdanoch chi a’ch cartref
  • Dewisiadau deietegol a gorsensitifrwydd i fwyd (amlder a diagnosis)
  • Cyfrifoldebau siopa a choginio
  • Gwybodaeth am gartrefi a demograffeg     
Bwyd y gallwch ymddiried ynddo
  • Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth ynddi
  • Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd 
  • Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd
Pryderon am fwyd
  • Pryderon am fwyd
Diogeledd bwyd 
  • Nifer yr achosion o ddiffyg diogeledd bwyd (modiwl diogelwch bwyd USDA)
  • Newidiadau y mae pobl wedi’u gwneud am resymau ariannol    
Siopa am fwyd
  • Ymddygiadau wrth brynu bwyd
  • Hyder mewn gwybodaeth am alergenau
  • Ymwybyddiaeth a chamau a gymerwyd mewn ymateb i rybuddion bwyd ac alergeddau 
  • Agweddau tuag at les anifeiliaid, tarddiad ac effaith amgylcheddol bwyd    
Bwyta allan a’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB)
  • Agweddau ac ymddygiadau yn ymwneud â bwyta allan ac archebu bwyd o siopau tecawê
  • Ymwybyddiaeth a defnydd o’r CSHB     
Bwyta gartref
  • Gwybodaeth am ddiogelwch bwyd ac ymddygiadau yn y cartref
Gorsensitifrwydd i fwyd
  • Cwestiynau manwl ar orsensitifrwydd i fwyd
Bwyta’n iach (Gogledd Iwerddon)
  • Bwyta’n iach gan gynnwys gwybodaeth (er enghraifft canllawiau’r llywodraeth), agweddau ac ymddygiad
Dewisiadau bwyd
  • Deietau iachus a chynaliadwy
  • Ymddygiadau wrth brynu

Adroddiadau Ystadegau Swyddogol Bwyd a Chi 2 

Mae’r prif adroddiad, yr adroddiad technegol a’r data ar gyfer pob cylch i’w gweld yn y dolenni canlynol:

Adroddiad technegol

Adroddiad technegol Bwyd a Chi – pob cylch

Adroddiadau dadansoddi eilaidd

Tueddiadau Bwyd a Chi 2

Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Dadansoddiad eilaidd gwlad-benodol: Cymru a Gogledd Iwerddon

Tablau data, setiau data a chanllaw defnyddio data

Cylchoedd unigol
Data tueddiadau

Data SPSS a deunyddiadau’r arolwg (i’w cael trwy Wasanaeth Data y DU)

Bwyd a Chi 2: Cylch 1 ac ymlaen

Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Adroddiad Dyddiad
Bwyd a Chi 2: Canfyddiadau Allweddol Cylch 12 Gwanwyn 2027

Ymchwil gysylltiedig

Manylion cyswllt

Gallwch gysylltu â thîm Bwyd a Chi 2 gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: foodandyou@food.gov.uk