Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Mawrth 2023

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2023 wedi’u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 March 2023

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2023 wedi’u cyhoeddi.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Manceinion, a’i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 22 Mawrth ac mae croeso i’r cyhoedd fod yno’n bersonol. Gallwch gofrestru i wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys y canlynol: 

  • Rheoli Risg Strategol
  • Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
  • Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau 
  • Cynllun Corfforaethol Tair Blynedd
  • Diweddariad ar y Broses Dadansoddi Risg a’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig
  • Adroddiad Blynyddol y Cyngor Gwyddoniaeth

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod Bwrdd mis Mawrth 2023 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd a’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol, yn unol â chanllawiau Covid. Yn ogystal, gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen cymorth arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01772 767731

E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk

Cyflwyno cwestiwn

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar y papurau sy’n cael eu hystyried ym mhob un o’i gyfarfodydd.

Rydym yn awyddus i sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, fod cwestiynau’n cael sylw yn y drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd, felly mae’n bwysig bod yr ymholiadau mor gryno ac uniongyrchol â phosib.

Dylai cwestiynau ymwneud â phapurau’r Bwrdd a gyhoeddwyd cyn y cyfarfod. Ni fydd cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â phapur ar agenda cyfarfod Bwrdd yr ASB yn cael sylw yn ystod cyfarfod y Bwrdd ond byddant yn cael eu hateb ar wahân ac yn ysgrifenedig.

Bydd pawb sy’n anfon cwestiwn ar gyfer cyfarfod y Bwrdd hefyd yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd. Cyhoeddir yr atebion ar dudalen berthnasol Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB.

Gallwch gyflwyno’ch cwestiynau hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cwestiynau a bydd y ffurflen yn cau.