Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Mawrth 2026
Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2026 wedi’u cyhoeddi.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Ngwesty Best Western Rembrandt, Weymouth, a chaiff ei gadeirio gan Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb.
Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9am ddydd Mercher, 25 Mawrth, ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod agored hwn. Ewch ati i gofrestru yma os hoffech chi ddod i’r cyfarfod, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Diweddariad y rhaglen: Sut mae’r ASB yn paratoi ar gyfer Cytundeb SPS rhwng y DU a’r UE
- Dyfodol y Rhaglen Rheoleiddio Bwyd
- Targedau Bwyd Iachach a’r trefniadau ar gyfer adrodd amdanynt
- Clefydau a Gludir gan Fwyd – Diweddariad
- Adroddiad terfynol o Adolygiad Effeithiolrwydd Allanol Bwrdd yr ASB
- Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC)
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Ewch ati i gofrestru yma os hoffech chi ddod i’r cyfarfod wyneb yn wyneb.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@onetwo.agency
Gallwch hefyd gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB
Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar bapurau a gyhoeddwyd i’w trafod yn ei gyfarfodydd.
Gallwch gyflwyno eich cwestiynau hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Sylwch fod cyfyngiad o 350 o eiriau ar y ffurflen i sicrhau bod eich cwestiwn yn gryno, er mwyn i ni allu mynd i’r afael ag ef yn llawn.
Bydd cwestiynau a ddaw i law yn y fformat hwn yn cael eu cyhoeddi y diwrnod cyn cyfarfod y Bwrdd.
Byddwn yn anelu at anfon ateb atoch trwy e-bost o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd, a bydd ymatebion hefyd yn cael eu cyhoeddi.
Ar gyfer cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â’r un o’r papurau sydd ar yr agenda, neu ar gyfer gohebiaeth sy’n hirach nag y mae’r ffurflen ar-lein yn ei ganiatáu, anfonwch e-bost i correspondence@food.gov.uk a byddwn yn anelu at ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Sylwch na fydd y cwestiynau hyn na’u hatebion yn cael eu cyhoeddi fel arfer. #