Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Medi 2022

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2022 wedi’u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 September 2022

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2022 wedi’u cyhoeddi.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Belfast, a’i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 14 Medi ac mae croeso i’r cyhoedd fod yno’n bersonol. Gallwch gofrestru i wylio ar-lein.

Mae’r agenda’n cynnwys:

  • Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
  • Adroddiad ar les anifeiliaid
  • Rhaglen Gorsensitifrwydd i Fwyd: Amlinellu cynlluniau ar gyfer cam dau

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod Bwrdd mis Medi 2022 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd ac aelodau’r cyhoedd sy’n gallu bod yno’n bersonol, yn unol â chanllawiau Covid-19. Yn ogystal, gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01772 767731

E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk

Cyflwyno cwestiwn

Gallwch gyflwyno cwestiynau i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd hyd at hanner dydd ar 13 Medi trwy anfon e-bost i board.sec@food.gov.uk.

Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar 14 Medi, yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig. Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.

COVID-19 a Chyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2022

Rydym yn croesawu aelodau’r cyhoedd i gyfarfod y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes agored am y trydydd tro ers i reolau Covid olygu bod rhaid ymuno â’r cyfarfodydd hyn yn rhithiol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ffrydio’r cyfarfod yn fyw i’r rhai na allant fod yn bresennol. 

Mae manylion amserlen y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.