Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Medi 2024
Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2024 wedi’u cyhoeddi.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng ngwesty Holiday Inn West, Peterborough, a’i gadeirio gan Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb.
Bydd yn dechrau am 9am, ddydd Mercher 18 Medi, ac mae croeso i’r cyhoedd fod yno’n bersonol. Gallwch hefyd gofrestru i’w wylio ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Diweddariad ar berfformiad awdurdodau lleol
- Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau
- Labelu alergenau rhagofalus a throthwyon alergenau
- Diweddariad blynyddol ar Wyddoniaeth yr ASB
- Adroddiad blynyddol ar les anifeiliaid – 2023/24
- Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2024 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o’r cyhoedd sy’n gallu bod yno’n bersonol. Yn ogystal, gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@onetwo.agency
Cyflwyno cwestiwn
Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar y papurau sy’n cael eu hystyried ym mhob un o’i gyfarfodydd.
Rydym yn awyddus i sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, fod cwestiynau’n cael sylw yn y drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd, felly mae’n bwysig bod yr ymholiadau mor gryno ac eglur â phosib.
Dylai cwestiynau ymwneud â phapurau’r Bwrdd a gyhoeddwyd cyn y cyfarfod. Ni fydd cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â phapur ar agenda cyfarfod Bwrdd yr ASB yn cael sylw yn ystod y cyfarfod, ond byddant yn cael eu hateb ar wahân ac yn ysgrifenedig.
Bydd pawb sy’n anfon cwestiwn ar gyfer cyfarfod y Bwrdd hefyd yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith i’r cyfarfod. Cyhoeddir yr atebion ar ein gwefan ar y dudalen berthnasol ynghylch Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB.
Gallwch gyflwyno eich cwestiynau hyd at 5pm, ddydd Llun 16 Medi, gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cwestiynau a bydd y ffurflen yn cau.
Sylwer bod togl iaith ar frig y ffurflen, ac y gallwch ddarllen y ffurflen a chyflwyno cwestiynau yn Gymraeg.