Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Mehefin 2026

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin 2026 wedi’u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Mehefin 2026

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Newcastle Upon Tyne, a chaiff ei gadeirio gan Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb.

Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9am ddydd Mercher, 17 Mehefin, ac mae croeso i’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod agored hwn. Ewch ati i gofrestru yma os hoffech chi ddod i’r cyfarfod, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein. 

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:

  • Strategaeth yr ASB: Diweddariad blynyddol ar ddangosyddion cynnydd
  • Adroddiad Blynyddol y Prif Gynghorydd Gwyddonol
  • Fframwaith bwydydd sy'n peri risg
  • Adroddiad Digwyddiadau Blynyddol

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd 

Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Ewch ati i gofrestru os hoffech ddod i’r cyfarfod. 

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni: 

Yn ogystal, gallwch gofrestru i ymuno â’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB 

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar bapurau a gyhoeddwyd i’w trafod yn ei gyfarfodydd. 

Gallwch gyflwyno’ch cwestiynau hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Sylwch fod cyfyngiad o 350 o eiriau ar y ffurflen i sicrhau bod eich cwestiwn yn gryno, er mwyn i ni allu mynd i’r afael ag ef yn llawn. 

Bydd cwestiynau a ddaw i law yn y fformat hwn yn cael eu cyhoeddi y diwrnod cyn cyfarfod y Bwrdd. 

Byddwn yn anelu at anfon ateb atoch trwy e-bost o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd, a bydd ymatebion hefyd yn cael eu cyhoeddi. 

Ar gyfer cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â’r un o’r papurau sydd ar yr agenda, neu ar gyfer gohebiaeth sy’n hirach nag y mae’r ffurflen ar-lein yn ei ganiatáu, anfonwch e-bost i correspondence@food.gov.uk a byddwn yn anelu at ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.  Sylwch na fydd y cwestiynau hyn na’u hatebion yn cael eu cyhoeddi fel arfer.