Cyhoeddi papurau cyfarfod Mehefin 2019 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae agenda a phapurau cyfarfod agored mis Mehefin y Bwrdd wedi’u cyhoeddi.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Birmingham ddydd Mercher 19 Mehefin 2019. Bydd yn dechrau am 9.00am ac yn cael ei arwain gan Gadeirydd yr ASB, Heather Hancock. Gallwch chi fod yn bresennol yn y cyfarfod neu ei wylio’n fyw ar-lein.
Mae’r agenda’n cynnwys trafodaethau ar y canlynol:
- gorsensitifrwydd i fwyd ac Adolygiad Labelu Alergenau’r Llywodraeth
- Rheoleiddio Ein Dyfodol (ROF)
- adroddiad y Cyngor Gwyddoniaeth ar Risgiau’r System Fwyd a Sganio’r Gorwel
- ein strategaeth samplu
- ein dull tuag at orfodi rheoleiddio
Gallwch weld yr agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi yn adran cyfarfodydd y bwrdd ar ein gwefan.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Gallwch chi fod yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd. Bydd angen i chi anfon e-bost atom ni i gofrestru ar gyfer cyfarfod Bwrdd. Gan fod lleoedd ar gael ar sail cyntaf i’r felin, arhoswch i gael cadarnhad swyddogol o’ch cofrestriad cyn gwneud trefniadau i fod yn bresennol.
Bydd cyfarfod mis Mehefin y Bwrdd yn cael ei gynnal yn Ystafelloedd Expand 3 a 4, Llawr 2, Maple House, 150 Corporation Street, Birmingham B4 6TB.
Gallwch hefyd wylio’r cyfarfod ar-lein drwy gofrestru ar ein gwefan.
Os ydych chi angen help i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
ffôn: 020 8481 3302
e-bost: fsaboardmeetings@livegroup.co.uk
Hanes diwygio
Published: 6 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2021