Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyngor i berchnogion ymlusgiaid yn dilyn rhybudd tynnu a galw cynnyrch yn ôl ar gyfer llygod wedi'u rhewi a ddefnyddir fel bwyd i anifeiliaid anwes, sy'n gysylltiedig â brigiad o achosion o Salmonela ymhlith pobl

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi cyfarwyddiadau pellach i berchnogion ymlusgiaid yn dilyn achos o salmonelosis ymysg pobl sy'n gysylltiedig â llygod wedi'u rhewi a ddefnyddir i fwydo nadroedd ac anifeiliaid ac adar eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 December 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 December 2021

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), ynghyd â Safonau Bwyd yr Alban, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd Cyhoeddus yr Alban yn cynghori perchnogion anifeiliaid i beidio â bwydo sypiau penodol o lygod wedi'u rhewi i'w hanifeiliaid anwes.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cyhoeddi cyfarwyddiadau pellach i berchnogion ymlusgiaid yn dilyn achos o salmonellosis dynol sy'n gysylltiedig â llygod wedi'u rhewi a ddefnyddir i fwydo nadroedd ac anifeiliaid ac adar eraill.Ers i'r brigiad o achosion gael ei adrodd gyntaf yn 2015, bu bron i 900 o achosion o salwch. Mae Salmonela (sy'n achosi salmonelosis) yn glefyd bacteriol cyffredin sy'n effeithio ar y coluddion ac sy’n gallu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl, neu drwy fwyta bwyd wedi’i halogi, neu drwy ddod i gysylltiad ag amgylcheddau wedi’u halogi gan achosi haint. 

Mae'r achos hwn o Salmonela wedi'i gysylltu â chynhyrchion llygod penodol sydd wedi’u rhewi, ac o ganlyniad, mae'r ASB wedi cyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl sy'n rhoi manylion am gynhyrchion yr effeithiwyd arnynt. Nid yw’r rhybudd galw cynnyrch yn ôl yn effeithio ar lygod mawr gan yr un cyflenwr, ond mae ymchwiliadau'n parhau. Pe bai pryderon o ran diogelwch llygod mawr yn cael eu nodi, bydd ein cyngor yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny. Mae'r ASB yn cyfarwyddo perchnogion ymlusgiaid a phobl eraill sydd â chyflenwad o’r llygod mawr wedi’u rhewi yr effeithir arnynt i’w dychwelyd i’r man prynu fel y gellir eu gwaredu’n ofalus.

Fodd bynnag, mae'r ASB a’i phartneriaid hefyd yn rhybuddio pobl i fod yn arbennig o ofalus wrth drin unrhyw gnofilod (rodents) wedi’u rhewi gan gynnwys cynnyrch a deunydd pecynnu llygod, nid dim ond y sypiau a nodwyd, oherwydd  risg  salmonela o sypiau eraill sy'n gysylltiedig â’r rhybudd galw cynnyrch yn ôl hwn.  

Dylai pobl fod yn arbennig o wyliadwrus, gan olchi eu dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr yn syth ar ôl dod i gysylltiad a thrin nid yn unig  y cynnyrch, ond hefyd eu hymlusgiaid a’r offer a’r amgylchedd cysylltiedig, oherwydd y risg o salwch. 

Mae cyngor cyffredinol pellach ar leihau’r risg o gael Salmonela ar gael ar-lein.

Meddai llefarydd ar ran y llywodraeth:

“Ym mis Medi eleni, cyflwynodd yr ASB ofynion newydd i siopau ddarparu taflen yn rhybuddio am risgiau Salmonela a sut i gadw cwsmeriaid yn ddiogel wrth brynu a bwydo llygod wedi’u rhewi i’w hymlusgiaid. Fodd bynnag, mae'r achosion yn parhau ac mae angen tynnu a galw’r holl sypiau penodol o lygod wedi’u rhewi yn ôl. Nid yw’r rhybudd tynnu a galw cynnyrch yn ôl yn effeithio ar lygod mawr gan yr un cyflenwr, ond mae ymchwiliadau’n parhau. Pe bai pryderon o ran diogelwch llygod mawr yn cael eu nodi, bydd cyngor yn cael ei ddiweddaru.

Felly os oes gennych chi’r cynnyrch llygod a ddefnyddir at ddibenion bwydo yr effeithiwyd arno yn eich rhewgell, ewch â’r cynnyrch yn ôl i’r man prynu fel y gellir ei waredu'n ofalus ac yn drylwyr a diheintio unrhyw arwynebau y mae wedi dod  i gysylltiad â nhw, gan gynnwys eich dwylo. Rydym ni hefyd yn gofyn i bobl fod yn arbennig o wyliadwrus gyda’r holl gynnyrch cnofilod wedi’i rewi; fodd bynnag, gwiriwch yr wybodaeth benodol am ba sypiau sydd wedi’u heffeithio gan na fydd manwerthwyr yn derbyn cynhyrchion eraill."

Cyngor i berchnogion ymlusgiaid o ran bwydo eu hanifeiliaid anwes 

Efallai y bydd gan berchnogion nadroedd, a phobl eraill sy’n defnyddio llygod wedi’u rhewi fel bwyd, bryderon o ran cynnal lles eu hanifeiliaid, gan y bydd rhybudd tynnu a galw cynnyrch yn ôl yn achosi prinder tymor byr. Dylai fod digon o lygod i gynnal lles anifeiliaid ar gyfer yr holl nadroedd ac anifeiliaid eraill, gan gynnwys adar sy’n bwyta llygod, pe bai perchnogion yn addasu eu harferion bwydo cyfredol. Cyhoeddir cyngor manwl ar gyfer perchnogion ymlusgiaid ar-lein.

Cyngor i rieni a gwarcheidwaid plant sy'n trin ymlusgiaid 

Mae hyn wedi effeithio’n benodol ar blant, felly rydym ni’n annog rhieni a gwarcheidwaid i sicrhau bod pawb yn golchi eu dwylo'n drylwyr â dŵr cynnes a sebon bob tro y maent yn trin ac yn bwydo llygod wedi’u rhewi i’w hanifeiliaid anwes a phob tro y maent yn trin eu hymlusgiaid er mwyn  lleihau’r risg o fynd yn sâl gyda Salmonela. Gallai'r filodfa (vivarium) a'r mannau y gall ymlusgiaid grwydro ynddynt gael eu halogi â salmonela. Dylid dilyn arferion hylendid da.

Os byddwch chi neu aelodau eraill o’r teulu yn mynd yn sâl gyda symptomau fel dolur rhydd, poen yn yr abdomen a thwymyn, cysylltwch â’ch meddyg neu GIG 111 a’u hysbysu eich bod yn berchen ar ymlusgiad.  Os oes gennych chi symptomau, gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi’ch dwylo’n rheolaidd ac osgoi paratoi bwyd i eraill.  Peidiwch â mynd i’r gwaith na’r ysgol tan 48 awr ar ôl i’r symptomau beidio er mwyn lleihau’r siawns o drosglwyddo’r haint