Cynhyrchiant gwin y DU yn codi’n sylweddol yn 2025, yn ôl data newydd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi ei data blynyddol ynghylch cynhyrchiant gwin yn y DU, gan ddangos bod gwin Cymru a Lloegr wedi gweld blwyddyn eithriadol gyda chyfanswm y cynhyrchiant yn cynyddu 55% o’i gymharu â 2024.
Data blynyddol ynghylch cynhyrchiant gwin (footnote 1)
Cynhaeaf (‘vintage’) |
Math o gynnyrch |
Cyfaint gwin cadw (‘reserve’) melys |
Cyfaint gwin rosé coch |
Cyfaint gwin gwyn |
Cyfaint gwin rosé coch amrywiaethol |
Cyfaint gwin gwyn amrywiaethol |
Cyfaint gwin rosé coch PGI |
Cyfaint gwin gwyn PGI |
Cyfaint gwin rosé coch PDO |
Cyfaint gwin gwyn PDO |
Cyfanswm y cyfaint |
2025 |
Gwin y busnes ei hun |
0.00 |
5804.97 |
11633.42 |
1477.17 |
4231.65 |
524.80 |
1093.75 |
3661.69 |
40241.40 |
68668.85 |
|
Contract |
0.00 |
4848.01 |
15059.93 |
322.01 |
761.86 |
605.04 |
916.41 |
647.65 |
5238.6 |
28399.51 |
|
|
Wedi’i brynu i mewn |
0.00 |
2161.28 |
5119.76 |
801.2 |
1510.57 |
111.05 |
195.89 |
3636.46 |
13773.11 |
27309.32 |
|
|
Cyfansymiau |
0.00 |
12814.26 |
31813.11 |
2600.38 |
6504.08 |
1240.89 |
2206.05 |
7945.80 |
59253.11 |
124377.68 |
|
|
%Gwyriad o’r flwyddyn flaenorol |
0 |
82.40% |
131.62% |
89.42% |
112.62% |
52.32% |
53.78% |
73.77% |
23.28% |
55.32% |
|
Mae’r ffigurau’n dangos bod 124,377 hectolitr o win — sy’n cyfateb i dros 16.5 miliwn o boteli — wedi’u cynhyrchu ledled y DU yn 2025. Mae hyn yn adlewyrchu’r amodau tyfu rhagorol a brofwyd drwy gydol y flwyddyn a thwf parhaus diwydiant gwin sy’n ffynnu ledled y DU.
Gwelwyd twf arbennig o sylweddol ar gyfer gwin gwyn, gyda’r cyfaint cynhyrchu yn cynyddu mwy na 131% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan danlinellu cryfder cynhaeaf 2025.
Tyfodd nifer y gwinllannoedd a gofrestrwyd gyda’r ASB hefyd, gan gyrraedd 1,158 — cynnydd o 4.3% ers y flwyddyn flaenorol — gyda mwy na 10,000 o bobl bellach yn cael eu cyflogi ar draws y sector.
Mae diwydiant gwin y DU bellach gwerth hyd at tua £14 biliwn, sy’n cadarnhau ei statws fel diwydiant sy’n cyfrannu’n sylweddol at yr economi genedlaethol.
Mae cynhaeaf 2025 wedi cael ei ddathlu’n eang gan gynhyrchwyr ledled Cymru a Lloegr. Roedd y tywydd ffafriol drwy gydol y tymor tyfu wedi arwain at ansawdd ffrwythau rhagorol a chynnyrch (‘yield’) sydd heb fod mor uchel ers blynyddoedd lawer.
Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn hollol eithriadol ar gyfer gwin o Gymru a Lloegr, ac mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu pa mor bell mae’r diwydiant wedi dod. Ein rôl ni yw sicrhau bod y gwin sy’n cyrraedd defnyddwyr wedi’i labelu’n gywir a’i fod yn bodloni’r safonau gofynnol. Mae’r twf rydyn ni’n ei weld ar draws y diwydiant, o winllannoedd a warysau i gyfanwerthwyr a masnachwyr, yn gwneud ein gwaith yn bwysicach nag erioed.
Rydyn ni’n croesawu ffigurau llawn yr ASB ynghylch cynaeafau. Maen nhw’n cadarnhau’r cynhaeaf o 16 miliwn o boteli gwnaethon ni ei nodi’r llynedd, ac mae ein hadroddiad ansoddol a meintiol manwl a lansiwyd heddiw yn rhoi’r holl fanylion. Mae ansawdd a graddfa cynhaeaf 2025 yn ein gwneud ni’n obeithiol iawn, ac rydyn ni’n cydnabod sgiliau sylweddol a gwaith caled y gwinllanwyr a gwneuthurwyr gwin, wrth iddynt sicrhau ail gynhaeaf mwyaf y DU.
-
Mae’r data hwn wedi’i gynhyrchu o broses Datgan Cynhyrchiant 2025. Casglwyd 237 o ymatebion a 4 achos o ddiffyg ymateb, sy’n golygu mai 98.31% yw’r gyfradd ymateb. Yn 2025, cyfanswm y cyfaint a gynhyrchwyd oedd 124377.68 hectolitr, sef 16,583,690 o boteli — cynnydd o 55% o’u cymharu â ffigurau cynhyrchu gwin 2024. Roedd cyfanswm o 1158 o winllannoedd wedi’u cofrestru gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn y DU — cynnydd o 4.3% (pob math o winllan: rhai masnachol, hobi, a segur). Roedd 779 (i fyny 5.8%) o winllannoedd masnachol. Roedd 190 (i fyny 2.7%) o windai masnachol gyda gwinwydd. Roedd 43 (i lawr -6.5%) o windai masnachol heb winwydd. Roedd 90 (i fyny 4.7%) o winllannoedd hobi. Roedd 56 (i fyny 9.8%) o winllannoedd segur. Cyfanswm y cynnydd o ran plannu gwinwydd oedd 2.99%. Roedd 4357.66 hectar o winwydd gweithredol (+15.79%). Roedd 533.04 hectar o winwydd nad oeddent yn gynhyrchiol — hynny yw, llai na 3 oed a heb eu cynaeafu (-45.69%). Roedd 67.73 hectar o winwydd segur (1.01%). Roedd 26.99 hectar o winwydd hobi (-7.06%).