Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Newyddion

Dathlu’n ddiogel gyda’n gilydd – Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn atgoffa cymunedau sut i weini bwyd diogel mewn partïon stryd

Penodol i Gymru a Lloegr

Dim ond ychydig o ddiwrnodau sydd i fynd tan benwythnos hir Gŵyl y Banc (2-5 Mehefin 2022). Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau wrth gynllunio eich parti stryd neu ddigwyddiad, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yma i’ch helpu chi. Rydym yn rhannu rhai awgrymiadau hawdd i’w dilyn fel bod y bwyd yn eich digwyddiad yn gofiadwy am y rhesymau iawn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2022

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n dathlu’n ddiogel, cofiwch fod tywydd cynnes a choginio yn yr awyr agored yn creu’r amodau perffaith i facteria dyfu. Felly ewch ati i gynllunio ymlaen llaw a darllen rhai awgrymiadau syml ar ddiogelwch bwyd wrth i chi baratoi a gweini bwyd oer yn eich parti stryd neu ddigwyddiad.

Meddai Narriman Looch, Pennaeth Clefydau a Gludir gan Fwyd yr ASB:

“Rydym wrth ein boddau bod penwythnos hir Gŵyl y Banc yn rhoi cyfle i gymunedau fwynhau dod at ei gilydd. Mae dathlu’n ddiogel yn golygu meddwl am ddiogelwch bwyd ymlaen llaw, fel y gallwch chi ganolbwyntio ar fwynhau’r parti.

“Rydym yn gwybod bod llawer o waith trefnu, felly mae’r ASB wedi cyhoeddi awgrymiadau hawdd ar ddiogelwch bwyd ar gyfer digwyddiadau cymunedol sy’n cynnwys dod â bwyd i’w rannu ag eraill. Mae hylendid yn bwysig, felly mae’n hanfodol cynllunio’n ofalus sut y byddwch yn paratoi, gwneud a storio bwyd. Does neb eisiau i fwyd anniogel effeithio ar hwyl a sbri’r penwythnos.”
 

Ydych chi’n trefnu digwyddiad? Dyma rai awgrymiadau syml i’w dilyn os ydych chi’n paratoi bwyd ar gyfer llawer o bobl: 

  • golchwch eich dwylo â sebon a dŵr yn rheolaidd cyn paratoi a bwyta bwyd
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi ffrwythau a llysiau ffres bob amser
  • storiwch fwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta ar wahân
  • peidiwch â defnyddio bwyd y tu hwnt i’w ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ (use-by date)
  • darllenwch unrhyw gyfarwyddiadau coginio bob amser a gwnewch yn siŵr bod bwyd wedi’i goginio’n iawn cyn ei weini – mae angen iddo fod yn stemio’n boeth
  • sicrhewch fod mannau paratoi bwyd yn cael eu glanhau a’u diheintio cyn ac ar ôl eu defnyddio, a bod offer cegin yn cael ei olchi mewn dŵr poeth â sebon
  • cynlluniwch ymlaen llaw i gadw eich bwyd yn oer nes eich bod chi’n barod i fwyta. Hefyd, mae angen cadw unrhyw fwydydd y byddech chi fel arfer yn eu cadw yn yr oergell yn oer yn ystod eich digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fwyd sydd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (use by), prydau wedi’u coginio, saladau a chynhyrchion llaeth.
  • rhowch y bwydydd hyn mewn blwch neu fag oeri gyda phecynnau iâ neu becynnau gel wedi’u rhewi. Gwasgarwch y pecynnau oeri hyn trwy’r blwch neu’r bag, nid dim ond ar y gwaelod. Gallwch hefyd defnyddio diodydd wedi’u rhewi i gadw popeth yn oer. Storiwch fwyd oer o dan bum gradd Celsius i atal bacteria rhag tyfu. 

Nid oes angen tystysgrif hyfforddiant hylendid bwyd arnoch i baratoi a gwerthu bwyd ar gyfer digwyddiadau elusennol. Fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau eich bod yn trin bwyd yn ddiogel. Bydd dilyn canllawiau’r ASB ar yr hanfodion diogelwch bwyd: glanhau, oeri, coginio ac atal croeshalogi yn eich helpu i baratoi pryd o fwyd diogel ar gyfer eich cymuned.

Os ydych chi ond yn cynnal digwyddiad unwaith ar gyfer ffrindiau a chymdogion, nid oes angen i chi gofrestru. Fodd bynnag, os bydd unrhyw fusnesau bwyd yn bresennol mae’n rhaid iddynt gofrestru gyda’r awdurdod lleol.

Ewch ati i ddysgu rhagor am bartïon stryd drwy fynd i food.gov.uk.