Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Defnyddwyr y DU yn rhannu eu safbwyntiau ar fwyd wedi’i fridio’n fanwl

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban wedi cyhoeddi cam cyntaf arolwg o agweddau’r cyhoedd tuag at fridio manwl, fel rhan o ymdrechion ehangach i gynyddu eu sylfaen dystiolaeth ym maes technolegau genetig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 October 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 October 2022

Roedd rhan gyntaf y prosiect ymchwil cymdeithasol dau gam yn gofyn am adborth gan aelodau’r cyhoedd ledled y DU o ran eu hymwybyddiaeth a’u hagweddau at fwyd wedi’i fridio’n fanwl, a pha wybodaeth am fwyd wedi’i fridio’n fanwl sy’n bwysig yn eu barn nhw. Bydd yr ail gam yn cael ei gynnal gan yr ASB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (yn gynnar yn 2023) a bydd yn helpu’r asiantaeth i ddeall beth sy’n llywio barn pobl, ac yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’u hanghenion. Bydd Safonau Bwyd yr Alban yn cynnal ymchwil bellach yn yr Alban. 

Mae canfyddiadau interim cam un yn amlygu ymwybyddiaeth isel o fridio manwl (75% o’r cyfranogwyr heb glywed amdano) ac awydd cryf i wybod mwy am y dechnoleg newydd a’r ffordd y caiff ei defnyddio wrth gynhyrchu bwyd a bwyd anifeiliaid.  

Er bod y data’n dangos parodrwydd cyffredinol i roi cynnig ar fwydydd wedi’u bridio’n fanwl ledled y DU, gyda mwy o bobl yn rhagweld effeithiau cadarnhaol na negyddol o’u defnyddio, mae cyfran fawr o bobl ag agwedd niwtral neu’n nodi nad ydynt yn gwybod digon i ateb cwestiynau’r arolwg.   

Mae’r Bil Technoleg Genetig (Bridio Manwl), sy’n berthnasol i Loegr yn unig, yn mynd trwy’r Senedd ar hyn o bryd. Pe bai’r Bil hwn yn dod yn gyfraith, bydd yr ASB yn gyfrifol am gyflwyno fframwaith rheoleiddio ar wahân ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’i fridio’n fanwl. Bydd y fframwaith hwn yn sicrhau na fydd unrhyw fwyd na bwyd anifeiliaid a ddatblygir gan ddefnyddio technegau bridio manwl yn mynd i mewn i’r gadwyn cyflenwi bwyd, oni bai y bernir nad ydynt yn peri unrhyw risg i iechyd, nad ydynt yn camarwain defnyddwyr, ac nad oes ganddynt werth maethol is na bwydydd cyfatebol wedi’u bridio yn y modd traddodiadol. Bydd y prosiect ymchwil defnyddwyr hwn yn bwydo i mewn i ddyluniad fframwaith rheoleiddio ac unrhyw waith ymgysylltu â defnyddwyr yn y dyfodol ar fridio manwl. 

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fwydydd sydd wedi bod yn destun bridio manwl ar werth yn y DU, er bod rhai ar gael mewn rhannau eraill o’r byd, ac mae bridio manwl yn dechnoleg sy’n tyfu’n gyflym yn y system fwyd fyd-eang. 

I gael rhagor o wybodaeth am fridio manwl, gwyliwch fideo ’FSA explains Precision Breeding’ (Mae’r fideo yn Saesneg yn unig am ei fod yn ymwneud yn benodol â Lloegr), ac ewch i'n tudalen we bwrpasol

Mae'r prosiect ymchwil defnyddwyr llawn ar gael ar ein tudalennau ymchwil.