Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Safonau Bwyd yr Alban ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn dilyn y cynnydd mewn achosion o pancytopenia cathod

Rydym ni’n ymwybodol ei bod yn gyfnod gofidus iawn i bobl sydd â chathod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 September 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 September 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Safonau Bwyd yr Alban (FSS), Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC), Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), awdurdodau lleol a'r gadwyn gyflenwi bwyd anifeiliaid anwes yn cymryd y sefyllfa o ddifrif.  Mae’r holl achosion posibl pancytopenia cathod yn cael eu hymchwilio. 

Nid oes unrhyw fwyd cathod anniogel wedi’i nodi, ond mae’r gweithgynhyrchwr a pherchnogion brand y cynhyrchion dan sylw, yn seiliedig ar yr ymchwiliadau hyd yn hyn, wedi cymryd y camau rhagofalus o alw sypiau o fwyd cathod sydd o bosibl yn gysylltiedig â’r cathod yr effeithiwyd arnynt yn ôl. 

Mae'r ASB wedi cyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl sy'n rhoi manylion y cynhyrchion yr effeithir arnynt. Mae achosion o pancytopenia cathod yn parhau i gynyddu felly rydym ni am ledaenu'r neges i berchnogion cathod nad ydynt efallai wedi clywed am y rhybudd galw cynnyrch yn ôl.

Cynhaliwyd cyfres o brofion dadansoddol wedi'u targedu i ddechrau er mwynchwilio am fetelau trwm a mycotocsinau (gan gynnwys T-2/HT-2) yn y bwyd cathod sydd wedi’i alw’n ôl, gan ei bod yn hysbys bod y tocsinau hyn yn gallu achosi pancytopenia mewn cathod. Cynhaliwyd profion hefyd i weld a ellid nodi rhai o'r tocsinau hyn neu unrhyw ddiffygion mewn fitaminau a mwynau hanfodol yng ngwaed cathod gydag achosion wedi'u cadarnhau o pancytopenia cathod. Nid oes achos pendant wedi'i nodi eto, er bod canlyniadau llawn yn cael eu pennu ar hyn o bryd.

Ers hynny, mae ein hymchwiliadau ar y cyd, gan y busnes bwyd a'r asiantaethau perthnasol dan sylw, wedi ehangu i chwilio am sbectrwm llawer ehangach o sylweddau gwenwynig yn y cynhyrchion bwyd cathod sy'n cael eu galw yn ôl, y cynhwysion unigol ac yng ngwaed cathod yr effeithiwyd arnynt.

Mae’n hysbys bod rhai firysau yn achosi pancytopenia cathod, y mae'r rhai mwyaf cyffredin hefyd wedi'u diystyru, ond rydym ni’n parhau i ystyried pob achos posibl.

Mae'r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn parhau yn ei rôl o gasglu gwybodaeth am yr holl achosion a nodwyd trwy alwad am wybodaeth i filfeddygon mewn ymgais i nodi unrhyw nodweddion cyffredin (common denominators) a allai dynnu sylw at achos sylfaenol.

Gydag achosion acíwt o'r natur hon, gall fod peth amser nes y gallwn nodi achos cyffredin  pendant. Mae'r ymchwiliad yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth a phe bai cynhyrchion ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai a allai fod yn anniogel, cyhoeddir rhybuddion pellach.