Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad yr Asiantaeth Safonau Bwyd am yr ymchwiliad i lecithin soia

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn rhoi diweddariad i bobl sydd ag alergedd i bysgnau ar yr ymchwiliad i lecithin soia sydd wedi'i halogi â physgnau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 May 2022

Mewn ymateb i nifer bach o bryderon a godwyd gan bobl ag alergeddau i bysgnau mewn perthynas â lecithin soia a allai fod wedi'i halogi, mae'r ASB yn cynghori nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd fod bwyd anniogel wedi'i roi ar y farchnad. 


Mae'r ASB wedi bod yn gweithio ar frys gyda busnesau ac awdurdodau lleol i ymchwilio i'r mater, ac mae wedi'i sicrhau bod tystiolaeth a ddarparwyd gan y diwydiant hyd yma yn awgrymu bod y digwyddiad wedi'i reoli. 

Meddai Pennaeth Digwyddiadau, Tina Potter: Food Standards Agency Head of Incidents, Tina Potter, said: 
 
“Gan ddilyn canllawiau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban, cymerodd manwerthwyr gamau yn gyflym ac mewn ffordd gyfrifol i gynnal eu hasesiadau risg diogelwch bwyd eu hunain a dal cynhyrchion yn ôl nes eu bod yn siŵr eu bod yn ddiogel. 
 
“Mae’r holl wybodaeth rydym wedi’i chael hyd yma gan fusnesau yn dangos nad oes unrhyw fwyd anniogel wedi’i roi ar y farchnad, ac nid ydym wedi derbyn unrhyw adroddiadau am adweithiau alergaidd sy’n gysylltiedig â’r mater hwn. 
 
“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid allweddol a’r diwydiant i gael darlun cliriach o’r mater a rhoi diweddariadau pellach pe bai unrhyw newid i’r hyn a wyddom. 

 “Fy nghyngor i’r rheiny sydd ag alergedd i bysgnau yw parhau i ddilyn y labelu alergenau rhagofalus (precautionary) ar gynhyrchion fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer a chofrestru ar gyfer ein rhybuddion alergedd fel y gallwch gael gwybod os bydd unrhyw gynhyrchion yn cael eu galw’n ôl yn y man.” 
 

Mae'n bwysig bod y rheiny sydd ag alergedd i bysgnau yn cymryd gofal arbennig i osgoi cynhyrchion sydd wedi'u labelu â rhybuddion rhagofalus i nodi y gallent gynnwys pysgnau wrth i ymchwiliadau pellach fynd rhagddynt.