Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi galwad olaf ar gyfer ychwanegu cynhyrchion CBD at y rhestr gyhoeddus

Heddiw (21 Ebrill 2022) mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi galwad olaf am dystiolaeth sy’n cysylltu cynhyrchion â cheisiadau ar y rhestr gyhoeddus. Mae’r rhestr CBD gyhoeddus yn dangos pa gynhyrchion sy’n destun cais credadwy am awdurdodiad gyda’r ASB.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 April 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 April 2022

Mae gan fusnesau tan 26 Mai 2022 i gyflwyno tystiolaeth bod eu cynhyrchion yn gysylltiedig â chais credadwy a’u bod wedi’u rhoi ar y farchnad cyn Chwefror 2020.

Meddai Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r ASB: 

‘Mae ein cyhoeddiad, dyddiedig 31 Mawrth, a nododd y dylid defnyddio’r rhestr CBD gyhoeddus i helpu i flaenoriaethu ymdrechion i orfodi’r rheoliadau bwydydd newydd wedi ysgogi nifer o gwmnïau i gyflwyno tystiolaeth newydd sy’n cysylltu nifer mawr o gynhyrchion unigol â cheisiadau. Rydym yn adolygu’r dystiolaeth newydd hon i asesu a yw’r cynhyrchion hyn yn bodloni’r meini prawf i’w hychwanegu at y rhestr.

‘Mae hwn yn ddatblygiad annisgwyl oherwydd  dylai’r wybodaeth hon am y cynnyrch fod wedi’i darparu i ni yn lawer cynharach yn y broses. Er mwyn cefnogi busnesau i sicrhau cydymffurfiaeth ar gyfer eu cynhyrchion, rydym ni felly yn gwneud un alwad olaf am dystiolaeth gan fusnesau i gysylltu eu cynhyrchion â cheisiadau credadwy. Rhaid i unrhyw fusnesau nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny anfon y dystiolaeth hon atom cyn gynted â phosib, ond heb fod yn hwyrach na 26 Mai, er mwyn iddi gael ei  hystyried.

‘Rydym yn bwriadu diweddaru’r rhestr gyhoeddus ddwywaith cyn 30 Mehefin, a disgwylir y diweddariad cyntaf yn fuan iawn. Ar ôl 30 Mehefin, ni fydd unrhyw gynhyrchion newydd yn cael eu hychwanegu. Yr unig newidiadau a wneir ar ôl hyn fydd adlewyrchu newidiadau i statws cynhyrchion yn ein proses awdurdodi bwydydd newydd.

‘Mae CBD yn farchnad fawr a chymhleth, lle nad oes unrhyw gynnyrch sydd ar werth ar hyn o bryd wedi bod trwy’r asesiad diogelwch angenrheidiol yn ffurfiol. Mae’r ASB yn parhau i ddefnyddio dull cymesur a phragmatig i sicrhau bod yr ystod enfawr hon o gynhyrchion yn cydymffurfio. Bydd rhywfaint o newid yn parhau yn y tymor byr wrth i’r broses barhau. Dim ond ar ôl awdurdodi ceisiadau CBD y daw sicrwydd.’

Dim ond cynhyrchion bwyd CBD sy’n bodloni’r meini prawf canlynol y gellir eu rhoi ar y rhestr gyhoeddus:

  • roedd y cynhyrchion ar y farchnad ar adeg ein cyhoeddiad ar CBD (13 Chwefror 2020)
  • daeth cais am awdurdodiad ar gyfer y cynhyrchion i law erbyn 31 Mawrth 2021
  • gwnaethom ddilysu’r cais neu gytuno ei fod yn symud yn ei flaen yn ddigonol tuag at gael ei ddilysu

Rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau am fwydydd CBD newydd, ond ni ddylai cynhyrchion sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau hyn gael eu gwerthu nes bod y broses wedi’i chwblhau a bod sicrhad o ran awdurdodiad. 

Gall awdurdodau lleol a manwerthwyr gysylltu â’r ASB i wirio a fydd cynhyrchion nad ydynt ar y rhestr yn cael eu hychwanegu. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynhyrchion CBD wedi’u hawdurdodi i’w gwerthu yn y DU, a bydd ceisiadau sydd wedi’u dilysu nawr yn symud ymlaen i gael asesiad risg gwyddonol llawn.