Dyn wedi’i arestio wrth i win a prosecco ffug gwerth tua £500,000 gael eu hatafaelu fel rhan o ymgyrch yr NFCU
Mae ymgyrch gan Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi arwain at arestio un unigolyn ac atafaelu llawer iawn o win a prosecco ffug.
Ar 3 Mawrth, cafodd dyn 61 oed ei arestio am gynllwynio i dwyllo, mewn perthynas â mewnforio a dosbarthu gwin a prosecco ffug ac sydd wedi’u camgyfleu. Atafaelwyd 90 paled o win a prosecco gan swyddogion NFCU, ochr yn ochr â’r Heddlu Metropolitan, o dri warws ledled Gogledd Llundain ac Essex. Roedd y paledi yn cynnwys dros 67,000 o boteli gyda gwerth manwerthu amcangyfrifedig o tua £500,000. Rhyddhawyd y dyn yn ddiweddarach o dan ymchwiliad, ac mae ymholiadau’n parhau.
Daeth yr ymgyrch â nifer o bartneriaid ynghyd ar draws asiantaethau gorfodi’r gyfraith, awdurdodau lleol a safonau masnach, gan gynnwys yr Heddlu Metropolitan a’i Uned Troseddau Cyfundrefnol ar gyfer Rhanbarth Gogledd Llundain, Partneriaeth Gangiau a Thîm Cymdogaethau Mwy Diogel, Awdurdod Lleol a Safonau Masnach Enfield, Cyngor Dosbarth Epping Forest, Safonau Masnach Essex, yn ogystal â Thîm Arolygu Gwin yr ASB.
Nid oes unrhyw arwydd o risg i iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, os oes gennych bryderon am gynnyrch rydych chi wedi’i brynu, cysylltwch â’ch Safonau Masnach lleol.
“Mae atafaelu dros 67,000 o boteli o gynnyrch ffug a gwneud arestiad yn anfon neges gref at y rhai sy’n ceisio elwa o dwyllo defnyddwyr: byddwn ni’n gweithredu.
Mae’r ymgyrch hon yn enghraifft glir o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fydd asiantaethau’n cydweithio tuag at yr un nod. Hoffwn ddiolch i bob partner a oedd yn rhan o’r ymgyrch hon am eu proffesiynoldeb a’u hymrwymiad drwyddi draw.
Nid yw twyll bwyd yn drosedd heb ddioddefwyr. Mae’n tanseilio busnesau cyfreithlon ac yn difetha ymddiriedaeth defnyddwyr. Yn yr achos hwn, y pryder yw dilysrwydd ac ansawdd bwyd – mae defnyddwyr yn haeddu gwybod bod yr hyn maen nhw’n ei brynu yn union yr hyn y mae’n honni ei fod. Mae’r NFCU wedi ymrwymo o hyd i ddiogelu defnyddwyr a sicrhau nad oes lle i weithgarwch troseddol yn system fwyd y DU.”
Os ydych chi’n amau twyll bwyd, rhowch wybod i’r tîm Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar food.gov.uk neu drwy ffonio 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau ffôn o’r tu allan i’r DU).