Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Penodi aelodau newydd i ymuno â Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol

Mae deuddeg arbenigwr annibynnol newydd wedi’u penodi’n aelodau o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 May 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 May 2021

Mae'r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, gyda chefnogaeth y Cyd-grwpiau Arbenigol, yn darparu cyngor arbenigol annibynnol ac yn herio strategaeth wyddoniaeth ac asesiad risg yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), ac yn sicrhau bod penderfyniadau polisi yn seiliedig ar y wyddoniaeth a'r dystiolaeth ddiweddaraf. 

Meddai Dr. Ruth Hussey, Cadeirydd Dros Dro yr ASB: 

‘Rwy'n falch o gyhoeddi'r penodiadau newydd hyn i'n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol. Fel adran annibynnol o'r Llywodraeth, mae'r ASB yn gyfrifol am ddiogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, gan sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Rydym ni’n dibynnu ar y pwyllgorau hyn i'n helpu i sicrhau ein bod ni’n defnyddio'r wyddoniaeth orau a mwyaf diweddar i lywio ein sylfaen dystiolaeth ar faterion diogelwch bwyd. Mae eu harbenigedd annibynnol yn amhrisiadwy wrth sicrhau y gallwn ni gynnal ein safon uchel o ddiogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr.’

Ychwanegodd yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB: 

‘Mae ymrwymiad yr ASB i wyddoniaeth a thystiolaeth yn sail i'n holl waith o lunio polisïau. Nawr bod y Deyrnas Unedig wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), maeangen hyd yn oed yn fwy o wyddoniaeth ar yr ASB a chanddi. Gall hyn amrywio o gyngor strategol ar ddulliau gwyddonol newydd i asesiadau risg ar fwydydd newydd. Mae arbenigedd cyfunol ein pwyllgorau gwyddoniaeth yn amhrisiadwy wrth helpu i lunio polisi'r llywodraeth yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r aelodau newydd.’

Penodiadau newydd

Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd (ACMSF) 

  • Yr Athro Linda Scobie, Adran y Gwyddorau Biolegol a Biofeddygol, Prifysgol Caledonian Glasgow

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) (ACNFP) 

  • Yr Athro Hans Verhagen, perchennog ac ymgynghorydd, Ymgynghoriaeth Diogelwch Bwyd a Maeth
  • Dr. Elizabeth Lund, ymgynghorydd annibynnol mewn maeth a moeseg ymchwil ac Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus, Prifysgol East Anglia
  • Mrs Alison Austin OBE, ymgynghorydd annibynnol ym maes cynaliadwyedd

Pwyllgor ar Wenwyndra (COT)

  • Dr. Simon Wilkinson, Uned Ymchwil Diogelu Iechyd, Prifysgol Newcastle
  • Yr Athro Shirley Price, Cyfadran Iechyd a Gwyddorau Meddygol, Prifysgol Surrey
  • Yr Athro Thorhallur Ingi Halldorsson, Cyfadran Gwyddor Bwyd a Maeth, Prifysgol Gwlad yr Iâ

Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Fwyd Anifeiliaid ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (AFFAJEG)

  • Derek Renshaw, Tocsicolegydd annibynnol
  • Yr Athro Matthew Fisher, Cyfadran Meddygaeth, Ysgol Iechyd y Cyhoedd, Coleg Imperial Llundain
  • Dr. Donald Morrison, Ysgol Gwyddorau Cymhwysol, Prifysgol Napier Caeredin
  • Dr. Helen Warren, Rheolwr Technegol, Alltech
  • Dr. Adam Smith, Rheolwr Datblygu'r Farchnad, Maeth ac Iechyd Anifeiliaid DSM

Cynhaliwyd yr ymarfer recriwtio trwy gystadleuaeth agored. Penodwyd aelodau newydd am gyfnodau cychwynnol o dair blynedd, gyda'r posibilrwydd o gael eu hailbenodi.