Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Penodiad newydd i Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi bod Aelod Bwrdd newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon, wedi’i benodi gan Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon. Bydd Anthony Harbinson yn gwasanaethu am dair blynedd, gan ddechrau ar 1 Medi 2022, a bydd hefyd yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon (NIFAC).

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 August 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 August 2022

Mae Anthony Harbinson yn ymuno â’r Bwrdd ar ôl ymddeol yn ddiweddar o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon fel Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.  

Yn Gyfrifydd Ardystiedig Siartredig cymwysedig, bu’n gwasanaethu am 15 mlynedd yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Iechyd a Phersonol Gogledd Iwerddon, cyn cael ei benodi’n Uwch Gyfarwyddwr Cynorthwyol Erlyniadau Cyhoeddus, ac yna’n Gyfarwyddwr Adnoddau yn Swyddfa Gogledd Iwerddon.   

Yn 2010 ymunodd ag Adran Gyfiawnder Gogledd Iwerddon a oedd newydd ei ffurfio, lle bu’n dal nifer o swyddi arwain gan gynnwys Cyfarwyddwr Mynediad at Gyfiawnder a Phrif Weithredwr Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon. 

Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB: 

Mae’n bleser croesawu Anthony i Fwrdd yr ASB.  Bydd yn dod â chryn wybodaeth a phrofiad i’r Bwrdd ac i NIFAC, gyda mewnwelediad dwfn i’r strwythurau datganoledig y mae’r ASB yn gweithredu oddi mewn iddynt. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef wrth i ni barhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyflawni ein cenhadaeth, sef ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’.” 

Bydd y penodiad hwn yn golygu ymrwymiad amser o 35 diwrnod y flwyddyn, a bydd tâl am y rôl ar gyfradd o £14,000 y flwyddyn. Gwnaed y penodiad hwn ar sail teilyngdod a gan ddilyn Cod Ymarfer Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.