Penodiadau i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth
Mae'n bleser gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ei bod wedi penodi pedwar aelod newydd i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC)
Mae'n bleser gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ei bod wedi penodi pedwar aelod newydd i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC).
Mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi penodi Chris Brereton, Georgia Taylor, Helen Taylor a Dr John Williams i'r Pwyllgor am gyfnod o dair blynedd o 1 Ebrill 2021.
Caiff y Pwyllgor Cynghori hwn ei gadeirio gan Peter Price, aelod o Fwrdd yr ASB dros Gymru, a benodir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) ar y cyd. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys arbenigwyr annibynnol a gaiff eu dewis am eu profiad a'u gwybodaeth ymarferol am feysydd fel y diwydiant bwyd, amaethyddiaeth, gwyddoniaeth sy'n gysylltiedig â bwyd, gorfodi a buddiannau defnyddwyr.
Meddai Peter Price: 'Rwy'n falch iawn o’r penodiadau hyn. Bydd y pedwar aelod newydd yn gaffaeliad mawr i'r Pwyllgor, gan ehangu ei arbenigedd mewn nifer o feysydd. Mae'r aelodau newydd yn dod â chyfoeth o brofiad mewn safonau a diogelwch bwyd neu feysydd cysylltiedig, gan gynnwys iechyd y cyhoedd amgylcheddol, iechyd y cyhoedd yn gyffredinol, gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol; arwain timau technegol mewn cadwyni cyflenwi bwyd, diod a deunydd pecynnu ledled y DU, ac arbenigedd cyfreithiol mewn cyfraith bwyd a hysbysebu. Bydd pob un yn gwella gallu'r Pwyllgor i gynghori Bwrdd yr ASB a thimau gweithredol yr Asiantaeth ar faterion bwyd sy'n ymwneud â Chymru’.
Mae rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor a bywgraffiadau ar gyfer yr aelodau newydd ar dudalennau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.