Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Penodiadau newydd i Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Heddiw, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi dau benodiad newydd i Fwrdd yr ASB. Bydd yr Arglwydd Blencathra a Fiona Gately yn gwasanaethu fel Aelodau am gyfnod o dair blynedd a ddaw i ben yn 2024.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 May 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 May 2021

Dywedodd Ruth Hussey, Cadeirydd Dros Dro yr ASB: 'Rwy'n falch iawn o groesawu David a Fiona i Fwrdd yr ASB. Maen nhw'n dod ag ystod eang o wybodaeth a phrofiad ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i barhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.’

Mae’r Arglwydd Blencathra wedi bod yn Aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011. Ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio ac mae'n gwasanaethu ar Gyngor Ewrop. Mae hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Natural England. 

Roedd yr Arglwydd Blencathra yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin rhwng 1983 a 2011 ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n Weinidog yn y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, Adran yr Amgylchedd a'r Swyddfa Gartref.

Mae Fiona Gately wedi gwasanaethu fel cynghorydd arbenigol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac wedi gwasanaethu ar ei Phwyllgor Cynghori ar Safonau Organig rhwng 2003 a 2005. Hi oedd cyfarwyddwr ymgyrchoedd Jamie Oliver ar fwyd ysgol, sgiliau coginio a gordewdra yn y Deyrnas Unedig (DU) a'r Unol Daleithiau.  Sefydlodd a gwasanaethodd ar Fwrdd Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol yr Adran Addysg rhwng 2009 a 2011.

Mae Fiona wedi gweithio i Dywysog Cymru i adeiladu ei frand bwyd organig arobryn Duchy Originals ac fel pennaeth marchnata yng nghwmni cydweithredol llaeth organig y DU, Omsco.  Mae hi'n gynghorydd i Academi Frenhinol y Celfyddydau Coginiol a'u Hymddiriedolaeth ‘Adopt A School’ i hyrwyddo addysg bwyd a sgiliau coginio trwy'r diwydiant lletygarwch.

Bydd y ddau benodai yn dechrau yn eu swyddi ar 1 Mehefin 2021.  

Telir tâl blynyddol o £8,000 i aelodau'r bwrdd am oddeutu 20 diwrnod y flwyddyn. Gwneir pob penodiad yn ôl teilyngdod a gwnaed y penodiadau hyn yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Dyma gyhoeddiad yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.