Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi adolygwyr annibynnol ar gyfer Adolygiad o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol

Mae’r Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), wedi cyhoeddi heddiw bod adolygwyr annibynnol wedi’u penodi ar gyfer dau o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol yr Asiantaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2022

Mae’r Athro Syr Charles Godfray yn Gyfarwyddwr Ysgol Martin Rhydychen ym Mhrifysgol Rhydychen. Fe’i penodwyd i arwain adolygiad trylwyr yr ASB o’r Cyngor Gwyddoniaeth a’r Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth Gymdeithasol (ACSS).

Bydd yr Athro Annette Boaz, Athro Polisi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, yn cefnogi’r Athro Godfray fel rhan o’r tîm adolygu.

‘Mae ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu’r ASB i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta a bod safonau uchel o ran diogelu defnyddwyr yn cael eu cynnal. Rydym yn dibynnu ar eu gwybodaeth fanwl sy’n rhoi sicrwydd i ni ein bod yn defnyddio’r wyddoniaeth gywir, o’r ffynonellau cywir. Bydd yr adolygiad yn ein helpu i sicrhau bod ein pwyllgorau annibynnol yn parhau i fod yn effeithlon, yn dryloyw ac yn parhau i ddarparu allbynnau cadarn sy’n helpu i ddiogelu defnyddwyr.

‘Rwy’n falch iawn bod yr Athro Godfray a’r Athro Boaz wedi cytuno i fod yn rhan o’r tîm adolygu ac yn edrych ymlaen at weld eu hargymhellion maes o law.’ 

Yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol, yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r Athro Godfray yn fiolegydd poblogaeth gyda diddordebau ymchwil yn y gwyddorau amgylcheddol, gan gynnwys ecoleg, epidemioleg a bioleg esblygiadol. Mae hefyd yn gyfarwyddwr Rhaglen Rhydychen ar Ddyfodol Bwyd.

Bydd yr Athro Boaz yn dod â’i harbenigedd mewn gwyddor gymdeithasol a pholisi i’r adolygiad. Mae hi wedi cael ei chydnabod am ei gwaith ar y modd y gall ymchwil gwyddorau cymdeithasol fod yn ddefnyddiol ym maes polisi ac yn ymarferol.