Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn croesawu 20 aelod newydd

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, wedi cyhoeddi bod yr ASB wedi penodi 20 o arbenigwyr annibynnol newydd i’w Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol. Mae hyn yn cynnwys 19 aelod llawn, ac un cadeirydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2024

Mae’r Cyngor Gwyddoniaeth a’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, gyda chefnogaeth Cyd-grwpiau Arbenigol, yn darparu cyngor arbenigol annibynnol ac yn herio strategaeth wyddoniaeth ac asesiad risg yr ASB, ac yn sicrhau bod penderfyniadau polisi’n seiliedig ar yr wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Maent yn ymdrin â materion fel bwydydd newydd, gwenwyndra, bwyd anifeiliaid, pathogenau, plaladdwyr a gwyddor gymdeithasol.  

 

Dywedodd yr Athro Susan Jebb: “Rwy’n falch o groesawu cymaint o arbenigwyr uchel eu parch i Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol yr ASB. Mae ein gwaith wedi’i seilio ar wyddoniaeth, ac mae’r pwyllgorau’n chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i sicrhau hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngwaith yr ASB. Rwy’n ymwybodol eu bod yn brysur iawn, ac rydym yn ddiolchgar iddynt am rannu eu sgiliau gwerthfawr a’u harbenigedd gyda ni fel y gallwn, gyda’n gilydd, wneud yn siŵr bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.”  

 

Dywedodd yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB: “Mae dadansoddiadau gwyddonol cadarn yn hanfodol i sicrhau diogelwch mewn system fwyd gymhleth. Mae Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB yn chwarae rhan hanfodol yn y broses hon, gan roi cyngor arbenigol ar ddiogelwch a safonau bwyd, yn ogystal â sganio’r gorwel ar gyfer risgiau sy’n dod i’r amlwg yn y dyfodol. Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r aelodau newydd hyn, sy’n dod ag ystod eithriadol o arbenigedd, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda phob un ohonynt.” 
Dyma’r penodiadau newydd:  

 

Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd  

  • Andrew MacLeod – Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (Arbenigol) Arweiniol – Rheoli Bwyd – Cyngor Argyll a Bute
  • Ms Claire Tomaso – Rheolwr Tîm Diogelwch Bwyd – Cyngor Enfield 
     

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd  

  • Dr Lynn McIntyre – Uwch-ddarlithydd mewn Microbioleg a Diogelwch Bwyd – Prifysgol Harper Adams
  • Dr Sophie Foley – Athro Cyswllt mewn Microbioleg – Prifysgol Napier Caeredin
  • Dr Isabel Skypala – Deietegydd Alergeddau Ymgynghorol – Ysbytai Brenhinol Brompton a Harefield
  • Dr Meera Cush – Uwch-ymgynghorydd Rheoli – Ramboll UK Limited 

 

Pwyllgor ar Wenwyndra  

  • Dr Christopher Morris – Uwch-ddarlithydd – Prifysgol Newcastle
  • Dr Meera Cush – Uwch-ymgynghorydd Rheoli – Ramboll UK Limited
  • Mr Nick Richardson – Pennaeth Sicrwydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Labordai Technoleg Gwyddoniaeth Amddiffyn
  • Mr Gordon Burton – Cyfarwyddwr – Gordon Burton Consulting Ltd
  • Dr Alison Yeates – Darlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol – Prifysgol Ulster
  • Dr Andreas Kolb – Uwch-gymrawd Ymchwil – Sefydliad Rowett – Prifysgol Aberdeen 

 

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF)

 

  • Mrs Christel Luise Wake – Gwyddonydd Gweddillion Byd-eang – Corteva Agriscience  

 

Cyngor Gwyddoniaeth

  • Cadeirydd – Yr Athro John O’Brien – Cyfarwyddwr –  Food Observatory
  • Yr Athro Tom Oliver – Deon Ymchwil yr Amgylchedd – Prifysgol Reading
  • Yr Athro Emily Burton – Athro Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy – Prifysgol Nottingham Trent
  • Mrs Jacqueline Ann Healing – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymgynghori, Hyfforddiant a Thechnegol y DU a Gogledd America – NSF International
  • Yr Athro Richard Smith – Dirprwy Is-Ganghellor ac Athro Economeg Iechyd Cyhoeddus – Prifysgol Caerwysg 

 

Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ychwanegion, Ensymau a Chynhyrchion Rheoleiddiedig Eraill

  • Dr Andrew Collins – Athro Bioleg Maeth – Prifysgol Oslo, Norwy
  • Dr Carol Beevers – Tocsicoleg Reoleiddiol – Corteva Agriscience 

 

Cynhaliwyd yr ymarfer recriwtio trwy gystadleuaeth agored. Penodwyd yr aelodau newydd am gyfnodau cychwynnol o dair blynedd.

 

Cadwch lygad am fwy o newyddion a safbwyntiau Gwyddoniaeth yr ASB yn ein gweithgarwch ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain sy’n dechrau ddydd Gwener yma, yr 8fed o Fawrth.