Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Sut bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ddeietau a beth yw'r cyfrifoldeb rheoliadol?

Siaradodd Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, yn y Gynhadledd Fyd-eang ar Reoleiddio Diogelwch Bwyd a Chynaliadwyedd ddydd Mercher 10 Tachwedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 November 2021

Anerchodd Susan y gynhadledd a drefnwyd gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban, a wnaeth ddod â rheoleiddwyr, gwyddonwyr bwyd a bwyd anifeiliaid, arbenigwyr y diwydiant, ac academyddion o bob rhan o’r system fwyd ynghyd i drafod sut gall y system fwyd ymateb i’r heriau a gyflwynir gan newid yn yr hinsawdd.

Dyma drawsgrifiad o’r araith:

Cyflwyniad

Mae'n bleser mawr gennyf eich croesawu i'r sesiwn hon lle byddwn yn canolbwyntio ar y cyfrifoldeb sydd ar reoleiddwyr bwyd wrth ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein deietau, neu yn wir, wrth helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dyma faes pwysig iawn. Yn fyd-eang, mae bwyd, yn enwedig amaethyddiaeth, yn gyfrifol am 26% o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r ffigur hwn ychydig yn is yn y DU, sef 19%, ond gyda’r rhan helaethaf yn deillio o gynhyrchu bwyd cynradd.

Gwyddom o'n hymchwil ein hunain ei fod yn fater y mae dinasyddion yn poeni’n fawr amdano. Canfu ein harolwg yn ystod yr haf eleni bod mwy na hanner o oedolion yn bwriadu gwneud rhai newidiadau o ran yr hyn maen nhw’n ei fwyta. Ac mae mwy na dwy ran o dair eisiau i'r llywodraeth a'r diwydiant bwyd wneud mwy i alluogi newid yn y system fwyd. 

Byddaf yn cyfaddef i mi gael fy siomi ychydig gan gyn lleied mae’r drafodaeth yn COP 26 wedi canolbwyntio ar fwyd, ond rwy’n gobeithio y bydd y cyfarfod hwn yn ategu lleisiau rhai o’r cyfarfodydd ymylol eraill a gwir godi proffil rhai o’r materion rydym yn eu hwynebu yn y system fwyd, ac a fydd mor hanfodol wrth inni fynd i’r afael â heriau newid yn yr hinsawdd. 

Rydyn ni'n gweld penawdau bob dydd am effaith drychinebus y system fwyd ar y blaned; ond, rwy’n falch o ddweud ein bod ni hefyd yn gweld penawdau am rai newyddbethau a allai ein helpu i newid ein trywydd – p’un ai amrywiaeth newydd o gynhyrchion sy’n deillio o blanhigion, pryfed bwytadwy neu gig a dyfir mewn labordy yw hynny. 

Felly’r hyn rwyf am ei ystyried, fel Cadeirydd yr ASB, yw: beth yw rôl rheoleiddwyr fel yr ASB wrth ymateb i'r materion hyn?

Fel rheoleiddwyr, mae angen i ni ddiogelu defnyddwyr a sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label. Bydd rhai o'r risgiau'n newid o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, ac mae angen i ni helpu'r busnesau rydym ni'n eu rheoleiddio i baratoi ac ymateb i'r heriau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu cyflwyno.

Mae yna dri rheswm pam mae'r ASB yn poeni am newid yn yr hinsawdd:

  • Dyma'r peth iawn i'w wneud – dyna ddylai pob sefydliad fod yn ei wneud.
  • Mae gennym ni lawer i’w gynnig – p’un ai ein gwyddoniaeth, y dystiolaeth a’r dadansoddi y gallwn ymgymryd ag ef, neu fel llais i ddefnyddwyr ym maes llunio polisi, neu ein profiad o weithio gyda busnesau i’w helpu i wneud newidiadau er budd y cyhoedd. Dyma feysydd lle mae gennym hanes cadarn, ac rwy’n credu y gallwn eu cymhwyso at rai o’r heriau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu cyflwyno.
  • Nid oes gennym ddewis – os nad ydym yn gweithredu nawr a chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, byddwn yn llawer llai abl i gadw bwyd yn ddiogel.

Ond mae angen i ni weithredu mewn partneriaeth â defnyddwyr, busnesau a gweddill y llywodraeth. 

Rydym yn adran lywodraethol anweinidogol sy’n gyfrifol am ddiogelwch a safonau bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a Lloegr, ac rydym ni’n gweithio'n agos â'n chwaer sefydliad Safonau Bwyd yr Alban. Ein cenhadaeth yw bwyd y gallwch ymddiried ynddo, ac mae hynny’n golygu ein bod yn gweithio i liniaru risgiau bwyd o’r fferm i’r fforc.

Mae gennym oddeutu 1,300 o aelodau staff gan gynnwys arolygwyr, arbenigwyr gorfodi, gweithwyr polisi proffesiynol, economegwyr, ystadegwyr, dadansoddwyr, ymchwilwyr a milfeddygon. Ac amrywiaeth fawr o bobl sy’n canolbwyntio ar y system fwyd. 

Mae eu gwaith yn atal pathogenau niweidiol rhag ymddangos mewn ffatrïoedd prosesu bwyd, yn cadw gwelyau pysgod cregyn yn ddiogel, yn atal halogiad alergenau ac yn sicrhau bod rheolau lles anifeiliaid a diogelwch bwyd yn cael eu dilyn mewn ffatrïoedd cig. Toreth o wahanol brosesau a gweithdrefnau rydym yn eu cynnal yn rheolaidd i gadw’r system fwyd yn ddiogel.

Wrth inni feddwl am y portffolio eang hwnnw o gyfrifoldebau, nid yw'n anodd dychmygu y gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar yr holl feysydd hyn.

Mae tymereddau sy’n codi yn golygu bod cadwyni bwyd a bwyd anifeiliaid mewn mwy o berygl o bathogenau a pheryglon eraill, fel afflatocsinau – y sylweddau gwenwynig a achosir gan ffwng. Mae tywydd eithafol yn tarfu ar gynaeafau a chadwyni cyflenwi, gan gynyddu’r perygl o ddigwyddiadau bwyd (food incidents) a throseddau bwyd.

Rhaid i reoleiddwyr fod yn effro i set gymhleth o risgiau a pheryglon a allai ddod yn sgil newid yn yr hinsawdd. Mae Cyngor Gwyddoniaeth yr ASB, sef pwyllgor annibynnol o arbenigwyr sy'n ein cynghori, eisoes yn ymchwilio i oblygiadau posib y newidiadau i gyflawni sero-net ar ddiogelwch bwyd. Ac mae adolygiadau eraill ar y gweill i edrych ar y tarfu ar y gadwyn fwyd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

Ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd

Ond yr hyn sy’n bwysig i’w gofio yw nad risgiau posib yn y dyfodol yn unig mo’r rhain. Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd ar fwyd eisoes yn cael eu teimlo o amgylch y byd. Mae tywydd eithafol yn effeithio ar gynhaeaf rhai cynhwysion allweddol, gan achosi prinder a chodiadau prisiau yn y gadwyn fwyd fyd-eang. 

Er enghraifft, mae sychder wedi effeithio ar gynhaeaf gwenith caled (durum wheat) yng Nghanada yn ddiweddar, un o gynhyrchwyr mwyaf y byd. Yn ôl pob sôn, mae hyn wedi arwain o gynnydd o bron i 90% ym mhrisiau gwenith caled, gyda’r posibiliad o godiadau sylweddol mewn prisiau i ddefnyddwyr sy’n prynu’r bwyd sylfaenol hwn. Dyma bryder gwirioneddol ar adeg lle mae ansicrwydd cynyddol o ran bwyd, hyd yn oed mewn gwlad gyfoethog fel y DU.

Mae’r tarfu hwn ar gynaeafau yn profi gwytnwch systemau bwyd, ac o ganlyniad mae rhai gwledydd poblog yn Ewrop wedi dod yn fwyfwy dibynnol ar fewnforion bwyd, gan beri eu bod yn fwy agored i brinder bwyd wrth i allforwyr amaethyddol mawr gyfyngu ar eu hallforion er mwyn bwydo eu poblogaethau eu hunain. Mae tarfu o’r fath yn cynyddu'r risgiau i'r rhwydwaith cyflenwi bwyd byd-eang.

Felly, beth mae hyn yn ei olygu i reoleiddwyr? Yn gyntaf oll, mae angen i ni fod yn effeithiol iawn wrth ymateb i risgiau a pheryglon yn y gadwyn fwyd. 

Bydd cydweithredu ac ymgysylltu rhyngwladol yn gwbl hanfodol. Mae sefydliadau fel INFOSAN a Codex yn wirioneddol hanfodol i gadw'r system fwyd fyd-eang yn ddiogel. Roeddwn wrth fy modd bod un o'n cydweithwyr ni yn yr ASB, Steve Wearne, wedi'i benodi'n Gadeirydd newydd Codex ddoe. Rwy’n gwybod y bydd Steve yn gweithio’n ddiflino i wneud ei orau glas ar gyfer y system fwyd fyd-eang. 

Roeddwn yn falch iawn hefyd ein bod ni wedi cynnal Cynhadledd Diogelwch Bwyd Fyd-eang lwyddiannus iawn yn gynharach eleni, a ddaeth â rheoleiddwyr ynghyd o’r byd benbaladr i geisio gwella ein dulliau rhannu gwybodaeth. Rwy’n gwbl argyhoeddedig y byddwn ni oll yn fwy llwyddiannus trwy weithio gyda'n gilydd wrth reoli digwyddiadau ac wrth drefnu ein parodrwydd ar gyfer argyfyngau. 

Mae angen i reoleiddwyr hefyd fod yn ystwyth yn y ffordd rydyn ni'n gorfodi ein rheoliadau. Gwelsom hyn yn ystod y pandemig COVID-19; roedd angen i ni ymateb yn chwim i sefyllfa a oedd yn datblygu'n gyflym er mwyn newid polisïau ac addasu gofynion rheoliadol i gefnogi'r diwydiant bwyd wrth gynnal cyflenwad bwyd diogel yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn.

Bydd y math hwn o hyblygrwydd yn hanfodol gan wrth i ni gefnogi'r diwydiant bwyd o ran ymateb i effeithiau andwyol newid yn yr hinsawdd.

Lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd

Ond nid yw diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn ymwneud â lleihau’r risgiau yn unig: mae hefyd yn ymwneud ag edrych tua’r dyfodol a lliniaru’r risgiau. Felly, beth gallwn ni ei wneud?

Mae angen system lai gwastraffus arnom. Mae angen i ni brynu a bwyta dim ond yr hyn sydd ei angen arnom, fel ein bod yn lleihau ein defnydd ar adnoddau amgylcheddol trwy gynhyrchu'r swm priodol o fwyd i fodloni ein hanghenion, lleihau gwastraff, a lleihau gorddefnydd.

Mae hefyd angen i ni wneud ein rhan i leihau’r niwed mae cynhyrchu bwyd yn ei wneud i’r amgylchedd. Ac yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, mae angen inni edrych yn benodol ar gynhyrchu a bwyta cig.

Y tu hwnt i'r camau lliniaru hynny, mae angen i ni hefyd geisio dod o hyd i atebion sy'n well i'r blaned, a bydd angen diwylliant arloesi. Mae ein hymchwil ein hunain wedi nodi bod defnyddwyr yn chwilio fwyfwy am ffynonellau bwyd mwy cynaliadwy. Roedd dwy ran o dair o ddefnyddwyr yn credu y dylai'r llywodraeth fod yn gwneud mwy i annog pobl i fwyta deietau mwy cynaliadwy.

Fel rheoleiddwyr, mae angen i ni ofyn i ni’n hunain a oes gennym y systemau rheoleiddio cywir sy'n parhau i ddiogelu defnyddwyr, ond sydd hefyd yn caniatáu i'r diwydiant bwyd ddatblygu'r atebion sydd eu hangen arnom mewn byd cyfnewidiol.

Sut gallai rheoleiddiwr fel yr ASB wneud gwahaniaeth?

Gadewch imi roi tair enghraifft i chi. Nid dyma’r unig enghreifftiau, ond rwy’n credu eu bod nhw’n arddangos gwahanol agweddau ar y mater.

Yn gyntaf, fel rwyf wedi nodi, gallem edrych ar sut rydym yn cefnogi arloesedd yn y system fwyd i annog cynhyrchu mwy cynaliadwy neu wahanol fathau o fwyd. Ers i'r DU ymadael â’r UE, mae'r ASB wedi bod yn gyfrifol am gymeradwyo cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid newydd cyn iddynt fynd ar y farchnad yn y DU.  

Diogelwch fydd y flaenoriaeth uchaf bob amser yn y broses asesu risg, ond gallem hefyd ystyried goblygiadau cynhyrchion newydd o safbwynt cynaliadwyedd amgylcheddol. 

Gallai hyn gynnwys datblygu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer bwydydd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau, neu’r modd rydym yn cefnogi datblygiad y farchnad pryfed bwytadwy neu broteinau amgen, a allai, o bosib, leihau allyriadau carbon gan y system fwyd. 

Mae'r rhain yn ddatblygiadau cyffrous a allai wneud cyfraniad gwirioneddol, felly rydym am weithio gyda'r diwydiant bwyd i archwilio eu potensial a chynorthwyo eu taith trwy’r broses reoleiddio. 

Ond mae angen i ni gadw budd defnyddwyr wrth wraidd ein penderfyniadau. Rwy’n gwybod bod gan lawer o ddefnyddwyr amheuon ynghylch prosesau a chynhyrchion newydd, ond yn yr un modd mae eraill eisiau gweld y math hwn o arloesi er mwyn cefnogi deiet mwy cynaliadwy. Ac mae angen i ni ddod o hyd i ffordd gytbwys trwy'r gwahanol safbwyntiau hynny. Mae angen proses glir a thryloyw arnom sy’n cynnal ymddiriedaeth a hyder defnyddwyr.

Yn ail, gallem ystyried labelu. Mae ein hymchwil wedi dangos bod gan ddefnyddwyr ddealltwriaeth dda o beth yw deiet iachus, ond mae bwlch gwybodaeth eithaf mawr o ran dewisiadau bwyd cynaliadwy. 

Mae’r diwydiant eisoes yn camu i'r maes hwn gyda thoreth o gynlluniau eco-labelu, o logos i ddata meintiol sy'n cynnwys dadansoddiad o gylch bywyd eu cynhyrchion. Ysgrifennodd Robin May, ein Prif Gynghorydd Gwyddonol, flog am hyn ar y penwythnos, ac mae hwnnw’n gwir amlygu ein cred bod angen i reoleiddwyr chwarae rhan wrth sicrhau dilysrwydd y data a ddefnyddir i wneud honiadau am gynaliadwyedd, a’r modd y caiff yr wybodaeth hon ei chyfleu i ddefnyddwyr i gynorthwyo orau ddewisiadau gwybodus.

Y trydydd peth yw caffael bwyd cyhoeddus. Yn Lloegr, mae eisoes gyda ni safonau prynu'r llywodraeth sydd wedi'u cynllunio i annog caffael iachach a mwy cynaliadwy.  Mae gan rai rhannau o'r sector cyhoeddus, fel ysgolion, safonau ar gyfer y bwyd sy'n cael ei weini ganddynt, a gallai'r sector cyhoeddus ehangach fod yn esiampl ar gyfer dewisiadau bwyd mwy cynaliadwy. 

Mae'r Llywodraeth yn gwario miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ar fwyd, ac mae hynny’n golygu bod ganddi’r potensial i gael dylanwad mawr iawn yn y system i ysgogi newid yn arferion y diwydiant. Ond ar hyn o bryd nid yw safonau caffael yn cael eu monitro na'u gorfodi. Gydag adnoddau priodol, mae rheoleiddwyr mewn sefyllfa dda i sicrhau bod bwyd a ddarperir gan y sector cyhoeddus hefyd yn cynnal nodau cynaliadwyedd y llywodraeth.

Rwy'n gobeithio fy mod wedi dangos bod yna, o bosib, nifer o ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio safonau bwyd i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i fwyd wneud daioni i bobl a’r blaned, ac nid dim ond fel ffordd o leihau’r risgiau yn y system fwyd.

Casgliad

Bwyd yw sylfaen bywyd. Mae'n bwysig i bob un ohonom, ac yn effeithio arnom bob dydd. Rydym wedi gwneud llawer iawn fel rheoleiddwyr i wella diogelwch bwyd, ond rwy’n credu’n gryf taw dyma’r amser i ni edrych ar y risgiau eraill yn y system. 
Ond mae'r system fwyd ei hun yn cyfrannu'n sylweddol at yr allyriadau carbon sy'n bygwth ein planed. Gellid dadlau taw dyna un o'r risgiau mwyaf sy'n ein hwynebu. 

Bydd meddwl am fwyd yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd yn her i bawb ohonom. Mae'r cyfarfod hwn yn gyfle gwych i ni gydnabod rôl rheoleiddwyr, ac mae hefyd yn gyfle i ddysgu oddi wrth ein gilydd am yr hyn sydd angen i ni ei wneud. 

Bydd y trafodaethau heddiw yn helpu i lunio ein strategaeth o fewn yr ASB, sydd wrthi’n cael ei datblygu, ac yn helpu i grisialu'r meysydd lle gall yr ASB ychwanegu'r gwerth mwyaf, wrth weithio’n ochr yn ochr â llawer o bartneriaid eraill yn y llywodraeth a’r diwydiant. Caf fy atgoffa’n gyson ein bod ni’n ddyledus yn hyn o beth i ddefnyddwyr heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.