Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Y lladd-dai lleiaf yn cael y gefnogaeth fwyaf o dan gynigion yr ASB

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn para am 12 wythnos ar gynigion a fyddai’n darparu gostyngiad o 90% ar daliadau am reolaethau swyddogol i’r lladd-dai lleiaf yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2026

Mae milfeddygon swyddogol ac arolygwyr hylendid cig yr ASB yn cynnal gwiriadau dyddiol i sicrhau bod safonau diogelwch bwyd a lles anifeiliaid mewn lladd-dai yn cael eu bodloni. Mae’r gwaith hanfodol hwn yn cadw defnyddwyr yn ddiogel, yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y diwydiant cig, ac yn galluogi busnesau i allforio, gan gefnogi sector cig y DU sy’n werth £11 biliwn.

Mae’r ASB yn adennill y rhan fwyaf o gostau’r gwaith rheoleiddio hwn gan weithredwyr, ond gall lladd-dai llai wynebu baich rheoleiddiol uwch fesul anifail na lladd-dai mwy o faint. Mae’r system ostyngiadau bresennol yn mynd i’r afael â hyn yn rhannol, a byddai’r cynigion newydd yn targedu’r gefnogaeth honno’n well.

Wrth ymgysylltu’n helaeth â’r diwydiant a rhanddeiliaid, tynnwyd sylw at y rhan bwysig y mae lladd-dai bach yn ei chwarae mewn cymunedau ac wrth gynnig dewis i ddefnyddwyr. Maent yn cefnogi ffermwyr sy’n arbenigo mewn bridiau prinnach ac yn rhoi’r opsiwn i’r cyhoedd brynu’n lleol. Mae’r cynigion diwygiedig wedi’u datblygu gyda’r buddion hyn mewn golwg.

O dan y cynigion, yng Nghymru a Lloegr:

  • Byddai dros hanner y lladd-dai yn cael rhywfaint o gefnogaeth ar raddfa symudol.
  • Byddai bron i un o bob tri lladd-dy – y rhai sy’n prosesu hyd at 1,000 LSU (Unedau Da Byw) y flwyddyn ar gyfer cig coch neu 150,000 o adar yn flynyddol ar gyfer dofednod / anifeiliaid hela bach – yn cael y gefnogaeth fwyaf, gyda gostyngiad o 90% ar daliadau. Dyma gynnydd o 50% ar y nifer sy’n cael y gefnogaeth fwyaf o dan y system bresennol.
  • Ni fyddai lladd-dai mwy yn gymwys ar gyfer cefnogaeth mwyach.

Mae nifer o wahaniaethau yn y sector amaethyddol yng Ngogledd Iwerddon, ac rydym hefyd yn ceisio safbwyntiau ar y ffordd orau o adlewyrchu’r rhain yn y gefnogaeth a roddwn i ladd-dai yng Ngogledd Iwerddon.

Gall lladd-dai llai chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau lleol a’r gadwyn fwyd ehangach, a byddai’r cynigion hyn yn rhoi sicrwydd i’r busnesau lleiaf y byddant yn cael y lefel uchaf o gefnogaeth.

Rydym wedi gwrando’n astud ar y sector ers i ni ddechrau’r gwaith hwn yn 2024, ac rydym yn annog pawb sydd â buddiant i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i weithio ar draws y llywodraeth i gefnogi’r diwydiant cig a sicrhau bod gan bobl fwyd y gallant ymddiried ynddo.

 James Cooper, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Bwyd


Gallwch ddweud eich dweud yma ar food.gov.uk.