Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Ymchwil yr ASB yn dangos pryder cynyddol ynghylch cost bwyd

Research published by the Food Standards Agency today shows the cost of food is a future major worry for three out of four of people in the UK.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 June 2022

Mae dau adroddiad pellach, sydd hefyd wedi’u cyhoeddi heddiw, yn dangos cynnydd yn y defnydd ar fanciau bwyd a darparwyr bwyd cymunedol ar draws y gymdeithas, yn ogystal â galwadau gan fanciau bwyd am gyngor cliriach, mwy hygyrch ar drin bwyd yn ddiogel. 

 Canfu’r ymchwil y canlynol:

  • Mae cost bwyd bellach yn bryder mawr at y dyfodol o dri o bob pedwar (76%) defnyddiwr yn y DU (prosiect Buddiannau, Anghenion a Phryderon am Fwyd y DU).
  • Mae nifer y bobl sy’n defnyddio banc bwyd neu elusen fwyd yn parhau i gynyddu – o oddeutu un o bob deg ym mis Mawrth 2021 (9%), i bron i un o bob chwech ym mis Mawrth 2022 (15%). Ac mae dros un o bob 5 (22% ym mis Mawrth 2022) yn dweud eu bod wedi hepgor pryd neu leihau maint prydau oherwydd nad oedd ganddynt ddigon o arian i brynu bwyd (Traciwr Safbwyntiau Defnyddwyr).
  • Mae angen cyngor a chymorth ychwanegol ar wirfoddolwyr banciau bwyd a darparwyr cymorth bwyd eraill ar drin rhoddion bwyd, gan gynnwys storio, paratoi, a dosbarthu bwyd yn ddiogel, gan osgoi gwastraff bwyd (Prosiect ar Ddarparwyr Bwyd Cymunedol).

Ynghyd â chyhoeddi’r dystiolaeth hon, mae’r ASB yn gweithio gyda busnesau i sicrhau bod y broses rhoi bwyd mor syml â phosib, ac i gefnogi’r rheiny sy’n gweithio mewn banciau bwyd a’r rheiny sy’n eu defnyddio i ddilyn arferion gorau o ran storio, paratoi, a choginio bwyd.

Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:

“Yn wyneb y pwysau uniongyrchol ar bobl sy’n straffaglu i brynu bwyd, mae banciau bwyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau. Rydym yn gweithio ar frys gyda’r diwydiant, rhoddwyr mawr eraill ac elusennau banciau bwyd i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau y gellir ailddosbarthu bwyd sy’n ddiogel i’w fwyta i bobl a all elwa o’r cymorth hwn.”

“Gall banciau bwyd fod yn achubiaeth y gellir ymddiried ynddi yn y tymor byr, ond rhaid i lywodraethau a rheoleiddwyr hefyd ystyried ffyrdd eraill y gall pobl gyrchu bwyd diogel ac iachus yn yr hirdymor.”

Mae’r camau y mae’r ASB yn eu cymryd yn cynnwys y canlynol:

  • Gweithio gydag elusennau cymorth bwyd gan gynnwys y Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol a FareShare i ddwyn ynghyd a theilwra adnoddau ar gyfer darparwyr bwyd cymunedol er mwyn eu gwneud nhw mor rhwydd i'w defnyddio â phosib. 
  • Rydym am adeiladu ar y gwaith cryf a wnaed eisoes mewn partneriaeth â WRAP i sicrhau bod cymaint o fwyd dros ben â phosib yn cael ei ailddosbarthu i bobl yn hytrach na mynd yn wastraff.
  • Gweithio gyda’r diwydiant, y llywodraeth a sefydliadau elusennol i archwilio a gwella’r dirwedd reoleiddio ar gyfer banciau bwyd a rhoddwyr bwyd, gan sicrhau bod rheolau a chanllawiau mor gymesur ac effeithiol â phosib, a helpu i rannu arferion gorau.  

Bydd y tri phrosiect ymchwil a’r gwaith y mae’r ASB yn ei wneud i fynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd yn y cartref yn cael eu trafod yn ei gyfarfod Bwrdd nesaf ar 15 Mehefin. 

Mae'r ASB, mewn cydweithrediad â Defra a WRAP, wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau ar ailddosbarthu bwyd dros ben.

Dywedodd Marcus Gover, Prif Weithredwr WRAP: 

“Mae WRAP yn falch o’i berthynas hirsefydlog â’r ASB a’n gwaith cydweithredol yng ngweithgor ailddosbarthu Ymrwymiad Courtauld. 

“Rydym yn cefnogi ymdrechion yr ASB i fynd i’r afael â’r pryderon sydd gan lawer ohonom ynghylch cost bwyd. Rydym yn amcangyfrif y gallai mwy na 200,000 o dunelli o fwyd dros ben gael eu dosbarthu o hyd bob blwyddyn. Felly trwy gydweithio gallwn ailddosbarthu rhagor o’r bwyd hwn, a fydd hefyd yn lleihau’r effaith mae ein bwyd yn ei chael ar yr amgylchedd, yn ogystal â helpu i sicrhau system fwyd ffyniannus i bawb yn y DU.”