Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr arolwg defnyddwyr diweddaraf yn olrhain lefel y pryder ynghylch cost bwyd ac effaith hyn ar ddiogelwch bwyd

Mae tystiolaeth newydd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn dangos bod rhai pobl yn cymryd risgiau diogelwch bwyd oherwydd pwysau ariannol a chostau ynni cynyddol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 October 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 October 2022

Mae’r data diweddaraf o fis Medi 2022 yn dangos bod:

  • 40% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn poeni am allu fforddio bwyd yn ystod y mis nesaf
  • 30% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod wedi hepgor pryd o fwyd neu leihau maint eu prydau am nad oedd ganddynt ddigon o arian i brynu bwyd yn ystod y mis diwethaf
  • 32% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod wedi bwyta bwyd sydd wedi mynd heibio’i ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, o leiaf unwaith yn ystod y mis diwethaf, am na allent fforddio prynu mwy o fwyd
  • 18% o’r ymatebwyr wedi diffodd oergell a/neu rewgell a oedd yn cynnwys bwyd, o leiaf unwaith yn ystod y mis diwethaf, er mwyn lleihau biliau ynni ac arbed arian 

Ynghyd â chyhoeddi’r dystiolaeth hon, mae’r ASB hefyd yn atgoffa pobl am ffyrdd o gadw’n ddiogel gan wneud y mwyaf o’u bwyd ac arbed arian. 

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:

'Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yn poeni am fforddiadwyedd bwyd ar hyn o bryd ac mae ein tystiolaeth yn dangos bod pobl yn dod o hyd i ffyrdd o arbed arian lle gallant, ond nid yw’n syniad da diffodd yr oergell neu fwyta bwyd sydd wedi mynd heibio’i ddyddiad ‘defnyddio erbyn’. Gall y pethau hyn arwain at risg uwch o fynd yn sâl gyda gwenwyn bwyd.

Mae eich oergell yn ffordd o gadw bwyd yn ddiogel, ond mae hefyd yn gallu helpu i leihau gwastraff bwyd.  Bydd cadw eich oergell yn ddigon oer, 5°C neu is, yn atal bacteria rhag lluosi ar eich bwyd ac yn gwneud iddo bara mor hir â phosib. Dylech hefyd gadw bwyd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn yr oergell ac ystyried ei rewi ar y dyddiad hwnnw, neu cyn hynny, os nad ydych am ei ddefnyddio.

Mae gennym ni lawer mwy o gyngor ar ein gwefan i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus, a chadw’n ddiogel.'

Camau y gall defnyddwyr eu cymryd i wneud y mwyaf o’u bwyd: 

  • Cadwch eich oergell ymlaen i fod yn ddiogel a gwneud y mwyaf o’ch bwyd
  • Mae defnyddio eich oergell ar y tymheredd cywir (5C neu is) yn helpu i atal gwenwyn bwyd  Os nad yw bwyd wedi’i oeri’n gywir, gallai fynd yn ddrwg yn gyflymach a bod yn anniogel i’w fwyta
  • Mae dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar fwyd yn ymwneud â diogelwch. Dyma'r dyddiad pwysicaf i’w gofio. Gallwch fwyta bwyd hyd at, ac ar, y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, ond nid ar ôl hynny. Gallwch hefyd rewi bwyd gyda dyddiad defnyddio erbyn hyd at y dyddiad ar y label
  • Mae ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd. Bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad hwn, ond efallai na fydd ar ei orau 
  • Gosodwch eich rhewgell i -18°C. Mae’r tymheredd hwn yn gohirio adweithiau cemegol mewn bwydydd ac yn “oedi” bacteria, gan ganiatáu i ni gadw bwyd yn hirach
  • Mae gan ein gwiriwr ffeithiau wrth fwyta gartref ragor o awgrymiadau ar sut i helpu i wneud i wneud y mwyaf o’ch bwyd a chadw’n ddiogel.

Arolwg Tracio Misol Mewnwelediadau Defnyddwyr

Mae’r data hwn yn rhan o gyfres o ystadegau ar bryderon defnyddwyr yn ymwneud â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r arolwg tracio mewnwelediadau defnyddwyr yn monitro tueddiadau ar ymddygiad ac agweddau defnyddwyr yn fisol ac fe’i cyhoeddir ar ein gwefan.