Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB ac FSS yn galw am weithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r heriau o ran y gweithlu milfeddygol

Gwnaeth Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Emily Miles, roi tystiolaeth i Bwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) ddoe (12 Mawrth 2024) yn nodi’r angen brys i fynd i’r afael â’r prinder milfeddygon ac, ar y cyd â’r FSS, yn pwysleisio’r angen i weithredu er mwyn gwella’n sylweddol gwaith recriwtio a chadw Milfeddygon Swyddogol ledled y DU.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 March 2024

Mae’r ASB ac FSS yn gofyn i’r llywodraeth ehangach a’r proffesiwn milfeddygol gydweithio i ddatblygu dull cynaliadwy o wella capasiti a gallu milfeddygol yn y DU. 

Mae hyn yn dilyn yr Adroddiad Blynyddol ar y cyd, Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU. Roedd yr adroddiad yn galw ar y llywodraeth a chyrff proffesiynol i gydweithio er mwyn gwella’n sylweddol gwaith recriwtio a chadw Milfeddygon Swyddogol.  

Ar ôl i Emily Miles annerch pwyllgor EFRA, nododd y ddau Brif Weithredwr:

 Mae ein milfeddygon swyddogol yn gwbl hanfodol er mwyn diogelu iechyd a lles anifeiliaid a masnach, yn ogystal â sicrhau safonau diogelwch bwyd yn y DU. 
  
Mae gallu’r ASB i gynnal arolygiadau dan arweiniad milfeddygon swyddogol mewn lladd-dai o dan bwysau parhaus oherwydd prinder gweithwyr milfeddygol. Mae hyn, yn ei dro, yn peryglu’r ymddiriedaeth uchel sydd gan ddefnyddwyr mewn safonau cig a lles anifeiliaid y DU. Rydym yn dibynnu ar filfeddygon o dramor i ymgymryd â gwaith iechyd cyhoeddus hanfodol a gwaith lles anifeiliaid mewn lladd-dai. Ychydig iawn o filfeddygon sydd wedi’u hyfforddi yn y DU sydd â diddordeb mewn gwneud y gwaith hwn ar hyn o bryd. 
  
Dyna pam gofynnodd yr ASB am ddiwygiad deddfwriaethol heddiw, yn ogystal â chefnogaeth ariannol, polisi mewnfudo cefnogol a strategaeth systematig er mwyn cynnig gyrfaoedd milfeddygol gwerth chweil a chynaliadwy. Mae angen dull gweithredu cydgysylltiedig ar draws y llywodraeth a’r proffesiwn milfeddygol er mwyn i ni ddod â’r sefyllfa ansicr bresennol i ben, ac er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn y DU yn gallu cael bwyd y gallant ymddiried ynddo yn y dyfodol.

Emily Miles, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r proffesiwn milfeddygol yn y DU drwyddi draw yn wynebu heriau o ran adnoddau, sy’n cyfrannu at anawsterau ac oedi wrth recriwtio digon o filfeddygon swyddogol. 
  
Mae ein milfeddygon swyddogol yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau safonau uchel ar gyfer lles anifeiliaid, a sicrhau bod cig a gynhyrchir mewn lladd-dai neu ffatrïoedd prosesu yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â chyfraith bwyd berthnasol. 
  
Gall peidio â chael digon o filfeddygon swyddogol effeithio ar ein gallu i allforio. Byddai defnyddwyr yn colli ymddiriedaeth yn system y DU, a byddai’r swyddogaethau hollbwysig o ran gwyliadwriaeth ar iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu tanseilio. 
  
I roi faint rydym yn dibynnu ar wladolion o dramor ar gyfer y rôl bwysig hon yn ei gyd-destun, dim ond un swyddog rhan-amser o’r DU a gyflogir gan FSS, a hynny o blith oddeutu 30 o filfeddygon swyddogol. O ganlyniad, mae cefnogi’r diwydiant cig a sicrhau diogelwch defnyddwyr yn golygu bod recriwtio o dramor yn parhau i fod yn hanfodol wrth sicrhau bod gennym ddigon o staff.  
  
Mae sicrhau cyflenwad o filfeddygon yn her, ac a dweud y gwir, yr anoddaf y byddwn yn ei gwneud hi i recriwtio i’r proffesiwn hynod fedrus hwn, y mwyaf tebygol yw hi y byddant yn mynd i rywle arall, gan arwain at anfantais economaidd i’r DU.  
  
Rydym yn galw ar lywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn cydnabod yr heriau sydd ynghlwm wrth sicrhau cyflenwad o filfeddygon a’r gallu i’w denu i’r proffesiwn, ac i wneud darpariaethau synhwyrol ar gyfer recriwtio milfeddygon, gan gynnwys o ran polisi mewnfudo.

Geoff Ogle, Prif Weithredwr Safonau Bwyd yr Alban

Mae milfeddygon swyddogol yr ASB ac FSS ac archwilwyr hylendid cig yn gweithio fel tîm i archwilio pob anifail a charcas yn y lladd-dai, gan chwarae rhan hanfodol ym maes ffermio da byw ac wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd.