Yr ASB yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer y diwydiant ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM) i helpu busnesau i gydymffurfio â chyfraith bwyd.
Nod y canllawiau newydd, sydd wedi’u datblygu trwy ymgysylltu ac ymgynghori helaeth â’r diwydiant, yw cefnogi busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gydymffurfio â rheoliadau MSM, yn unol â chanlyniad dyfarniadau’r Goruchaf Lys a’r Uchel Lys.
Mae’r dyfarniadau llys hyn, sy’n egluro’r diffiniad o MSM a sut y dylai’r diwydiant bwyd ei gymhwyso i’w gynhyrchion, yn golygu y bydd angen i rai busnesau addasu eu prosesau a’r ffordd y maent yn dosbarthu ac yn labelu eu cynhyrchion er mwyn cydymffurfio â chyfraith bwyd. Mae’r ASB yn cydnabod y gallai fod angen amser ar fusnesau bwyd i wneud y newidiadau angenrheidiol yn unol â’r diffiniad eglurach, a bydd yn eu helpu i wneud hynny o fewn amserlen resymol.
Rhaid datgan MSM fel cynhwysyn pan gaiff ei ddefnyddio mewn cynnyrch bwyd, ac nid yw’n cyfrif tuag at y ganran gyffredinol o gig a nodir ar y label. Mae hyn yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus am y bwyd maen nhw’n ei brynu.
“Fel rheoleiddiwr, mae gan yr ASB ddyletswydd i gefnogi busnesau i weithredu a chynnal dyfarniadau’r llys ar MSM, felly rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â’r diwydiant ar ddatblygu’r canllawiau newydd hyn, gan ystyried anghenion busnesau bwyd a’u helpu i gydymffurfio â chyfraith bwyd.
“Bydd gweithredu’r canllawiau newydd yn sicrhau bod pob cynnyrch yn cael ei ddosbarthu’n gywir; bydd hyn yn cynnal y gyfraith a diogelu pobl trwy eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus.”
Ewch i’n tudalen we ynghylch cig wedi’i wahanu’n fecanyddol i ddarllen y canllawiau newydd yn llawn.