Yr ASB yn cyhoeddi Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Chanllawiau Ymarfer diweddaredig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi fersiynau diweddaredig o’r Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Codau) a’r Canllawiau Ymarfer ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam pwysig tuag at ddull mwy modern a hyblyg o orfodi cyfraith bwyd.
Mae hyn yn nodi cam diweddaraf yr ASB o foderneiddio dulliau rheoleiddio bwyd, a hynny yn dilyn ymgynghori ac ymgysylltu helaeth â chynghorau lleol (awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yng Nghymru a Lloegr, a chynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon), yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill. Nod y newidiadau yw helpu cynghorau lleol i dargedu adnoddau lle maen nhw’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ganlyniadau iechyd y cyhoedd.
Mae’r Codau a’r Canllawiau Ymarfer diweddaredig yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach yr ASB i foderneiddio’r system diogelwch bwyd mewn ymateb i arferion bwyd sy’n esblygu, ymddygiadau defnyddwyr sy’n newid a phwysau parhaus yn y diwydiant bwyd.
“Mae’r diweddariad hwn yn helpu i sicrhau bod gan gynghorau lleol ddull mwy hyblyg, sy’n seiliedig ar risg, o gyflawni eu gwaith hanfodol mewn ffordd sy’n effeithiol ac yn gynaliadwy. Bydd y newidiadau rydym wedi’u gwneud yn cryfhau cysondeb gorfodi cyfraith bwyd, yn cefnogi datblygiad swyddogion ac yn gwella diogelwch defnyddwyr.”
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ASB wedi gweithio’n agos gyda chynghorau lleol a rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion ar gyfer dull modern o reoleiddio bwyd, sy’n seiliedig ar risg. Cynhaliwyd ymgynghoriad 12 wythnos o hyd yn 2025, a chyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ym mis Awst.
Mae’r prif ddiweddariadau’n cynnwys:
- dull mwy hyblyg o flaenoriaethu rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn busnesau bwyd newydd sy’n seiliedig ar risg, gan ganiatáu’r hyblygrwydd i gynghorau lleol flaenoriaethu busnesau pan fyddant yn cofrestru gyntaf
- mwy o ddefnydd o ddulliau rheoli amgen, gan gynnwys, mewn rhai achosion, asesiadau o bell sy’n rhoi mwy o ddewis i gynghorau lleol gefnogi defnydd mwy effeithlon o adnoddau
- ehangu’r garfan o weithwyr proffesiynol a all ymgymryd â gweithgareddau penodol i gefnogi’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol yng Nghymru a Lloegr, a hynny er mwyn sicrhau bod arbenigedd swyddogion yn cael ei neilltuo lle gall gael yr effaith fwyaf
- cyflwyno’r Model Gweithredu Safonau Bwyd newydd yng Nghymru. Mae hyn yn diweddaru sut mae cynghorau lleol yn rheoleiddio safonau bwyd o fewn sefydliadau bwyd yng Nghymru. Cafodd hyn ei roi ar waith yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2023.
Mae’r Codau diweddaredig bellach ar gael, a disgwylir iddynt wella cysondeb wrth reoleiddio, cefnogi arloesedd mewn arferion diogelwch bwyd, a chynnal hyder defnyddwyr.
Fel rhan o’n gwaith parhaus i gefnogi cynghorau lleol i gynnal safonau bwyd uchel, mae’r ASB hefyd wedi lansio Safon Cymwyseddau ddiwygiedig. Gellir defnyddio’r Safon er mwyn sicrhau bod swyddogion sy’n cynnal gwiriadau diogelwch bwyd wedi’u hyfforddi’n briodol ac yn gymwys. Mae’r Safon, pan gaiff ei darllen ar y cyd â Chodau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, yn helpu cynghorau lleol i asesu cymhwysedd eu staff ar gyfer y gweithgareddau y maent yn eu cyflawni yn eu rolau, ac fe’i defnyddir fel rhan o’u cynllun datblygiad proffesiynol parhaus.
Y camau nesaf
Mae’r Codau a’r Canllawiau Ymarfer diweddaredig bellach ar gael ar wefan yr ASB. Cyhoeddir fersiynau ar wahân wedi’u teilwra i’r cyd-destun cyfreithiol a gweithredol ym mhob gwlad.