Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB yn cyhoeddi pwerau ymchwilio ychwanegol i fynd i’r afael â thwyll bwyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Heddiw, mae pwerau newydd wedi dod i rym sy’n rhoi pwerau ymchwilio penodol i Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE)

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Mai 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Mai 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

O 1 Mai 2025 ymlaen, bron i ddegawd ar ôl sefydlu’r NFCU, bydd pwerau newydd o dan PACE yn galluogi ymchwilwyr yr NFCU i wneud cais am warantau chwilio a’u gweithredu, gyda’r mesurau diogelu priodol. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu defnyddwyr a busnesau rhag twyll bwyd yn fwy effeithiol.

Sefydlwyd NFCU yr ASB yn dilyn Adolygiad Elliott, yn sgil yr argyfwng cig ceffyl. Ers hynny, mae’r Uned wedi tyfu gyda’r nod o atal twyll bwyd, gan gefnogi busnesau i gyflawni eu cyfrifoldebau i wneud a gwerthu bwyd diogel.

Dros y degawd diwethaf, mae’r NFCU wedi gweithio gyda sefydliadau partner fel yr heddlu ac awdurdodau lleol er mwyn brwydro yn erbyn twyll bwyd, ac erlyn ac atal troseddwyr.

Mae’r pwerau newydd hyn yn arf hanfodol i sicrhau bod modd bwrw ymlaen ag ymchwiliadau’r NFCU yn fwy uniongyrchol ac effeithiol. Bydd ein hymchwilwyr yn gallu gwneud cais am warantau chwilio a’u defnyddio, gan gynyddu ein gallu i ymateb yn gyflym i gudd-wybodaeth a pharhau i sicrhau bod camau cyflym yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â thwyll bwyd.

Mae hyder defnyddwyr yn niogelwch a dilysrwydd bwyd yn uchel. Mae hyn wedi sicrhau amgylchedd sy’n helpu i greu’r amodau i fusnesau Prydain ffynnu.

Byddwn yn dal i weithio’n agos gyda phartneriaid fel yr heddlu ac awdurdodau lleol. Bydd ein pwerau newydd yn rhyddhau eu hadnoddau hanfodol fel y gellir eu dargyfeirio i flaenoriaethau eraill, tra bydd gennym fwy o alluoedd i ddiogelu busnesau a defnyddwyr cyfreithlon.

Andrew Quinn, Pennaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB

Bydd y pwerau ymchwilio newydd hyn ar gyfer yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr a chefnogi busnesau cyfreithlon ledled Cymru.

Mae diogelwch bwyd yn rhan hanfodol o iechyd y cyhoedd, a bydd y galluoedd uwch hyn yn sicrhau bod modd cymryd camau gweithredu’n gynt yn erbyn unrhyw un sy’n ceisio tanseilio ein safonau bwyd.

Sarah Murphy, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Llywodraeth Cymru

Mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod ein bwyd yn ddilys ac yn ddiogel ar gyfer y cyhoedd ym Mhrydain. Dyna pam mae hi’n hollbwysig cynyddu pwerau’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd i fynd i’r afael â thwyll bwyd.

Yn fwy cyffredinol, bydd ein strategaeth fwyd traws-lywodraethol yn sicrhau y gall ein system fwyd barhau i fwydo’r genedl, gwireddu ei photensial ar gyfer twf economaidd, a diogelu’r blaned a maethu unigolion, nawr ac yn y dyfodol.

Daniel Zeichner, y Gweinidog dros Ddiogeledd Bwyd a Materion Gwledig
Mae’r pwerau newydd sydd wedi’u rhoi i’r NFCU yn hollbwysig wrth barhau i frwydro yn erbyn twyll bwyd yn y DU. Bydd bod â’r gallu i fynd i mewn i safleoedd a’u harchwilio yn union ar ôl arestio unigolion dan amheuaeth yn ei gwneud hi’n anoddach o lawer i droseddwyr gael gwared ar dystiolaeth gyhuddol a chuddio’u gweithredoedd. Dw i wedi cefnogi’r datblygiad hwn ym mhwerau’r Uned ers sawl blwyddyn, a dw i’n falch o weld eu bod bellach yn dod i rym. O ganlyniad i’r pwerau newydd hyn, bydd yr holl fusnesau bwyd gonest a defnyddwyr yn y DU yn cael eu diogelu’n well.
Yr Athro Chris Elliott, Athro diogelwch bwyd a microbioleg ym Mhrifysgol Queen’s

Os ydych yn amau twyll bwyd, gallwch roi gwybod i’r tîm Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol drwy ein gwasanaethau ar-lein neu drwy ffonio 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau ffôn o’r tu allan i’r DU).