Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB yn cymeradwyo cynllun prentisiaeth newydd ar gyfer Ymarferwyr Safonau Masnach

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cymryd camau mawr i gymeradwyo llwybr newydd i gymhwyso ar gyfer y rhai sydd am ddechrau neu ddatblygu eu gyrfa ym maes safonau bwyd a safonau masnach.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 May 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 May 2023

Mae’r ASB yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI) a Grŵp Arloesi sy'n cynrychioli cyflogwyr yn y proffesiwn i gydnabod cynllun prentisiaeth Ymarferydd Safonau Masnach (TSP) Lefel 6. Mae’r cynllun yn arwain at hyfforddi ac asesu prentisiaid yn erbyn Fframwaith Cymwyseddau Proffesiynol y CTSI a Fframwaith Cymwyseddau’r ASB ar gyfer cynnal Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid.

Disgwylir y bydd hyd at 100 o ymgeiswyr yn dechrau’r brentisiaeth Lefel 6 yn ystod y 12 mis nesaf. Bydd hyn yn cyfrannu’n sylweddol at y gronfa o swyddogion a all gynnal Rheolaethau Swyddogol er mwyn cadw bwyd yn ddiogel a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Roeddem yn falch iawn o gael gweithio gyda’r CTSI a’r Grŵp Arloesi, ac rydym yn edrych ymlaen at gynnwys prentisiaeth Ymarferydd Safonau Masnach (TSP) Lefel 6 cydnabyddedig y CTSI yn y Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid maes o law. Rydym yn croesawu’r llwybr ychwanegol sy’n galluogi swyddogion i gymhwyso i gynnal rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol.
Karen McCloskey, Head of Delivery Standards at the FSA

Ar ôl llawer o drafod a gwaith caled, rwyf wrth fy modd ein bod bellach wedi cael eglurhad ar Brentisiaeth TSP Lefel 6 a sut mae’n cyd-fynd â Fframwaith Cymwyseddau Proffesiynol presennol CTSI. Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r ASB, y Grŵp Arloesi, arholwyr, cymedrolwyr a swyddogion arweiniol CTSI, sydd i gyd wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech i gynnal yr ymarfer mapio ac i ddatblygu’r cynllun Prentisiaeth hollbwysig hwn.

John Herriman, Prif Swyddog Gweithredol CTSI
Mae wedi bod yn bleser cael bod yn rhan o’r Grŵp Arloesi, sydd wedi datblygu’r Brentisiaeth Lefel 6 i’r pwynt lle gellir ei lansio. Mae’r Grŵp yn croesawu cydnabyddiaeth yr ASB o werth y brentisiaeth ac rwy’n edrych ymlaen at wylio’r rhaglen yn datblygu a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar Safonau Masnach, yn enwedig o ran datblygu a chydnabod cymhwysedd ym maes bwyd a bwyd anifeiliaid.
Richard Strawson, Cadeirydd y Grŵp Arloesi