Yr ASB yn nodi 15 mlynedd o sgoriau hylendid bwyd ac yn atgoffa’r cyhoedd i ‘edrych cyn bwcio’
Wrth i bobl baratoi i ddathlu mewn bwytai a chaffis y Nadolig hwn, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn annog y cyhoedd i wirio un peth bach a allai eu diogelu rhag gwenwyn bwyd.
Mae ymchwil newydd o fis Tachwedd 2025 o fwy na 2,000 o oedolion yn dangos bod oddeutu tri o bob pump o’r ymatebwyr (62%) yn debygol o fwyta allan yn ystod mis Rhagfyr a’r Flwyddyn Newydd. Wrth ddewis ble i fynd, dywedodd 71% o’r rhain y byddent yn ystyried ansawdd y bwyd a 66% y pris. Dywedodd ychydig dros un o bob tri (36%) y byddent yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta dros gyfnod y Nadolig, ac mae’r ASB yn annog hyd yn oed fwy o bobl i ‘edrych cyn bwcio’ – gwiriad syml a allai wneud eu dathliadau’n fwy diogel.
Gall y cam hawdd hwnnw wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ymchwil yr ASB yn dangos bod busnesau bwyd sydd wedi cael sgôr o 2 neu is ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig ag achosion o wenwyn bwyd o’u cymharu â’r busnesau hynny sydd wedi cael sgôr o 3 (‘boddhaol ar y cyfan’) neu uwch.
“Ers 15 mlynedd, mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi helpu i gadw teuluoedd, ffrindiau a chymunedau ledled y wlad yn ddiogel wrth fwyta allan.
Mae ein hymchwil yn dangos, er bod ymwybyddiaeth o’r Cynllun yn uchel, fod cyfle i fwy o bobl ddefnyddio sgoriau wrth ddewis ble i fwyta. Y Nadolig hwn mae ein neges yn syml: edrychwch cyn bwcio. Mater o eiliadau fydd hi i sicrhau bod eich dathliadau nid yn unig yn arbennig ond hefyd yn ddiogel.”
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a gaiff ei gynnal mewn partneriaeth rhwng yr ASB ac awdurdodau lleol, yn rhoi sgôr i fusnesau o 0 (‘angen gwella ar frys’) i 5 (‘da iawn’). Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae wedi helpu i ysgogi gwelliannau mawr mewn safonau diogelwch bwyd mewn sefydliadau ledled y DU.
Mae’r cynllun bellach yn cwmpasu mwy na 430,000 o fusnesau ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, gyda 97% yn cyflawni sgôr o ‘boddhaol ar y cyfan’ neu’n well, a 78% yn cael sgôr ‘da iawn’. Ers 2013, mae cyfran y busnesau sy’n ennill y sgôr uchaf wedi codi mwy na 24%, gan ddangos gwelliant mawr mewn safonau hylendid bwyd.
Mae ymwybyddiaeth o’r cynllun yn parhau i fod yn uchel gydag 89% o ddefnyddwyr yn dweud eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a 91% yn adnabod y sticer sgôr hylendid bwyd gwyrdd a du unigryw a ddangosir mewn bwytai, caffis, siopau tecawê, a siopau bwyd eraill.
Cafodd y cynllun ei gydnabod gan y Gymdeithas Frenhinol dros Iechyd y Cyhoedd fel un o’r 20 prif lwyddiannau ym maes iechyd y cyhoedd yn yr 21ain ganrif.
Mae modd i’r cyhoedd wirio sgoriau hylendid bwyd ar-lein yn food.gov.uk/sgoriau neu chwilio am y sticer sgôr hylendid gwyrdd a du sy’n cael ei arddangos mewn mannau bwyd.
Gair am yr Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr
- Arolwg tracio misol yr ASB yw’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr, sy’n monitro newidiadau yn ymddygiad ac agweddau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.
- Bob mis, cynhelir yr arolwg gyda thua 2,000 o oedolion (16 oed neu hŷn) yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr sydd wedi cofrestru ar gyfer panel arolwg ar-lein YouGov.
- Caiff adroddiad yr Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr ei gyhoeddi’n chwarterol ac mae’n ategu arolwg ystadegyn swyddogol yr ASB, Bwyd a Chi 2, sy’n casglu data mwy cynhwysfawr bob dwy flynedd, gan fonitro ymddygiad ac agweddau defnyddwyr dros fwy o amser.
I gael rhagor o wybodaeth
Bydd yr adroddiad chwarterol nesaf, sy’n ymdrin â chanfyddiadau rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2025, yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2026.