Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB yn tynnu sylw at bwysigrwydd trin bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn ddiogel

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn atgoffa pobl i fod yn ofalus wrth drin bwyd anifeiliaid anwes amrwd, yn dilyn arolwg a ganfu fod rhai cynhyrchion yn gallu cynnwys bacteria niweidiol a allai wneud anifeiliaid anwes a’u perchnogion yn sâl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Chwefror 2026

Mae bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn fwyd sy’n cynnwys cig heb ei brosesu neu heb ei goginio, offal ac asgwrn amrwd. Efallai na fydd bob amser yn amlwg bod cynhyrchion – gan gynnwys danteithion a bwydydd cnoi wedi’u sychu i anifeiliaid anwes – yn cynnwys cig amrwd. Mae’r cig mewn bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn  dod o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a oedd wedi’u bwriadu’n wreiddiol i’w bwyta gan bobl ond sydd bellach wedi’u hailddosbarthu ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes yn unig. 

Hyd yn oed gyda’r gofal mwyaf, mae’r risg o groeshalogi yn llawer uwch gyda bwyd anifeiliaid anwes amrwd o gymharu â bwyd anifeiliaid anwes arall. Y rheswm dros hyn yw y gall bwyd amrwd i anifeiliaid anwes gynnwys bacteria a fyddai fel arfer yn cael eu lladd wrth goginio. Mae hyn yn golygu bod risg y gallai bacteria niweidiol, gan gynnwys bacteria sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau (a elwir yn ymwrthedd gwrthficrobaidd neu AMR), gael eu lledaenu drwy ddod i gysylltiad â’r bwyd anifeiliaid anwes neu eich anifail. Mewn rhai achosion, gallai anifeiliaid anwes hefyd gael yr haint a’i drosglwyddo i’w perchnogion, weithiau heb ddangos unrhyw symptomau eu hunain.

Cynhaliodd yr ASB arolwg o 380 o gynhyrchion bwyd amrwd ar gyfer cŵn a chathod a gafodd eu prynu o siopau manwerthu ac ar-lein rhwng mis Mawrth 2023 a mis Chwefror 2024. Gwnaeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) gynnal y profion yn y labordy. Lle nodwyd problemau, gweithiodd yr ASB gydag awdurdodau lleol i fynd i’r afael â nhw. Mae’r canfyddiadau’n cael eu cyhoeddi i atgoffa’r rheiny sydd ag anifeiliaid anwes y gall dilyn arferion hylendid syml wrth storio, dadrewi, trin a pharatoi’r cynhyrchion hyn leihau’r risg o salwch iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd. 

Canfu’r arolwg y pethau canlynol: 

  • Roedd 35% yn cynnwys bacteria niweidiol, gan gynnwys Salmonela, Campylobacter ac E. coli sy’n gallu achosi salwch mewn pobl   
  • Methodd 29% â chyrraedd safonau diogelwch cyfreithiol y DU 

Mae plant ifanc, menywod beichiog, pobl hŷn a’r rheiny sydd â systemau imiwnedd gwan mewn mwy o berygl o salwch difrifol a dylen nhw gymryd gofal ychwanegol wrth drin, storio a pharatoi bwyd anifeiliaid anwes amrwd.

Dylai perchnogion anifeiliaid anwes sy’n poeni am y risgiau i’w hanifail siarad â’u milfeddyg am fwyd anifeiliaid anwes priodol.  

Mae rheolau llym ar waith i reoleiddio bwyd anifeiliaid anwes. Mae’r ASB yn gweithio gydag awdurdodau lleol i atgoffa busnesau bwyd anifeiliaid o’u cyfrifoldebau i sicrhau bod bwyd anifeiliaid anwes yn ddiogel, ac i atgyfnerthu pwysigrwydd y canllawiau ynghylch trin bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn ddiogel.

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer o berchnogion anifeiliaid anwes yn dewis bwyd amrwd i’w hanifeiliaid. Mae’r arolwg hwn yn dangos y gall y cynhyrchion hyn beri risg i iechyd pobl ac anifeiliaid. 

Gall arferion hylendid da a thrin bwyd yn ddiogel helpu i leihau’r risgiau i chi a’ch teulu. Dilynwch yr un egwyddorion hylendid ag y byddech wrth baratoi bwyd ar gyfer y bobl yn eich bywyd; golchi eich dwylo’n drylwyr â sebon a dŵr, glanhau pob arwyneb, a storio a dadrewi bwyd a danteithion anifeiliaid anwes i ffwrdd o fwyd i bobl. 

Mae gwybodaeth fanwl am drin bwyd i anifeiliaid anwes yn ddiogel ar gael ar dudalen ganllaw bwrpasol yr ASB ar fwyd anifeiliaid anwes amrwd.”  

 Rick Mumford, Prif Gynghorydd Gwyddonol Dros Dro yr ASB

“Gall cynhyrchion bwyd anifeiliaid anwes amrwd gynnwys bacteria niweidiol fel Salmonela a Campylobacter, a all achosi dolur rhydd, poen yn y stumog ac weithiau chwydu a thwymyn. Gall y bacteria hyn gael eu trosglwyddo i bobl trwy drin bwyd anifeiliaid anwes amrwd, cynhyrchion neu arwynebau halogedig neu drwy gyffwrdd ag anifeiliaid anwes sydd wedi bwyta’r bwyd. Mae plant ifanc, menywod beichiog, pobl hŷn ac unigolion â systemau imiwnedd gwannach mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn.

“Er mwyn lleihau’r risg o salwch, dylai perchnogion anifeiliaid anwes olchi eu dwylo’n drylwyr ar ôl trin bwyd anifeiliaid anwes amrwd, glanhau a diheintio powlenni, cyllyll a ffyrc ac arwynebau, storio bwyd anifeiliaid anwes amrwd ar wahân i fwyd pobl a sicrhau eu bod yn cynnal arferion hylendid da ar gyfer trin baw anifeiliaid anwes. Dylai unrhyw un sy’n poeni am symptomau gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor pellach."

Gauri Godbole, Dirprwy Gyfarwyddwr Heintiau Gastroberfeddol, Diogelwch Bwyd ac Iechyd Cyfunol yn UKHSA

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn arwain o ran Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid, gan gynnal ymchwil hanfodol i leihau lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd.  

Mae adroddiad heddiw yn ein hatgoffa y gall bwyd anifeiliaid anwes amrwd gario bacteria niweidiol sy’n peri risg i iechyd anifeiliaid. Dylai perchnogion anifeiliaid anwes drin bwyd amrwd yn yr un modd ag y byddent yn trin cig amrwd er mwyn osgoi heintiau a gludir mewn bwyd a’r risg y bydd ymwrthedd gwrthficrobaidd yn lledaenu rhwng anifeiliaid anwes. 

Stephen Wyllie, Pennaeth Milfeddygol One Health yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Mae’r ASB wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU a bydd yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth a chyda gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr a gweithwyr iechyd anifeiliaid proffesiynol i sicrhau bod bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn cael ei reoleiddio’n effeithiol.