Yr ASB yn ymestyn ei chefnogaeth i’r Rhwydwaith Ymchwil Diogelwch Bwyd er mwyn rhagweld risgiau yn y dyfodol a helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd
Yr ASB yn ymestyn ei chefnogaeth i’r Rhwydwaith Ymchwil Diogelwch Bwyd er mwyn rhagweld risgiau yn y dyfodol a helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd
Cafodd y Rhwydwaith, a sefydlwyd yn 2022, ei gyd-greu gan yr ASB er mwyn pontio’r bwlch rhwng ymchwil, y diwydiant a pholisi, gan helpu i sicrhau bod gwyddoniaeth arloesol yn arwain at atebion ymarferol sy’n cefnogi system diogelwch bwyd y DU. Wedi’i gynnal gan Sefydliad Quadram, mae’r Rhwydwaith bellach yn dechrau ar gyfnod uchelgeisiol newydd sy’n canolbwyntio ar ragweld risgiau, cyflymu arloesedd, a diogelu iechyd y cyhoedd.
“Mae gwyddoniaeth wrth wraidd popeth a wnawn yma yn yr ASB. Mae ein partneriaeth barhaus â BBSRC i gefnogi’r Rhwydwaith yn pwysleisio ein hymrwymiad i fod yn rheoleiddiwr sy’n cael ei arwain gan wyddoniaeth ac sy’n edrych tuag at y dyfodol. Mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i fod yn ymwybodol o risgiau diogelwch bwyd sy’n dod i'r amlwg ac wrth lunio dull rheoleiddio sy’n hyblyg ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Rydym wrth ein bodd o allu parhau i gefnogi’r gwaith pwysig hwn.”
Mae’r Rhwydwaith wedi tyfu i fod yn gymuned gynhwysol a chydweithredol, gyda bron i 500 o aelodau ar draws 290 o sefydliadau – gan gynnwys ymchwilwyr, busnesau bwyd, arloeswyr a llunwyr polisi. Mae’r dull unigryw hwn yn galluogi’r ASB i nodi ac ymateb yn rhagweithiol i risgiau ar draws y system fwyd, yn hytrach nag ymateb iddynt ar ôl iddynt ddod i’r amlwg.
Hanes da o ran cyflawni
Ers ei sefydlu, mae’r Rhwydwaith, a gyd-ariennir gan yr ASB a BBSRC, wedi:
- cyflawni 42 o brosiectau ymchwil cydweithredol
- dosbarthu £1.88 miliwn i gonsortia ymchwil amlddisgyblaethol
- cynnal 11 gweithdy targededig ledled y DU
- cynnig cefnogaeth sylweddol i ymchwilwyr gyrfa gynnar ac i fusnesau bach a chanolig
Drwy gyd-ddatblygu prosiectau ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau diogelwch bwyd ar draws y byd, mae’r Rhwydwaith yn cefnogi strategaeth wyddoniaeth yr ASB ac yn sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn parhau i gael ei arwain gan dystiolaeth, ac yn edrych tuag at y dyfodol.
Mae gwaith y Rhwydwaith yn cyd-fynd â phedair thema ymchwil strategol, sef:
- sicrhau diogelwch a safonau bwyd
- deall defnyddwyr a chymdeithas
- addasu i systemau bwyd y dyfodol
- mynd i’r afael â heriau brand byd-eang sy’n gysylltiedig â bwyd
“Rydym yn dechrau ar y gwaith â gwir egni a phwrpas. Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Diogelwch Bwyd wedi dangos yr hyn sy’n bosib wrth ddod â busnesau bwyd ac ymchwilwyr ynghyd i ddatrys problemau go iawn.”
Gan gynnal gwaith sganio’r gorwel allweddol i’r ASB, mae’r Rhwydwaith yn helpu i nodi risgiau sy’n dod i’r amlwg – gan amrywio o fygythiadau microbaidd mewn bwydydd parod i’w bwyta i heriau a achosir gan broteinau newydd a ffermio fertigol.
Bydd y cam nesaf hefyd yn cryfhau ffocws y Rhwydwaith ar ddiogelwch bwyd yn y cartref, arferion cynhyrchu bwyd sy’n esblygu ac effaith newid hinsawdd wrth sicrhau bod system fwyd y DU yn parhau i fod yn ddiogel, yn wydn ac yn barod ar gyfer y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar gael yma.