Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ceisio barn ar ‘gallai gynnwys’

Ymgynghoriad a chyfres o weithdai i lywio camau nesaf ar adeiladu system labelu alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau ymarferol ar gyfer busnesau a defnyddwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 December 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 December 2021

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgynghoriad i gasglu safbwyntiau busnesau a defnyddwyr ar ddefnyddio labelu alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau, sydd i’w gweld yn aml fel “gallai gynnwys” ar ddeunydd pecynnu bwyd.
 
Mae astudiaethau diweddar yr ASB wedi canfod bod pobl sy'n byw ag alergeddau bwyd, anoddefiadau bwyd, neu glefyd seliag yn gwerthfawrogi gwybodaeth ragofalus am alergenau neu labelu alergenau rhagofalus pan mae'n dweud wrthynt yn glir am risg na ellir ei hosgoi o groeshalogi alergenau. 
 
Ond gall defnyddwyr hefyd gael eu drysu gan yr ystod o ddatganiadau labelu rhagofalus ar fwydydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw, fel bariau siocled, bisgedi a chynhyrchion eraill a werthir mewn archfarchnadoedd, lle gall y geiriad fod yn wahanol rhwng cynhyrchion ac efallai nad yw’n glir yn union beth yw'r risg. 
 
Canfu’r astudiaethau fod mwyafrif y busnesau bwyd yn defnyddio’r labeli hyn i geisio diogelu defnyddwyr ond eu bod wedi’u drysu o ran pryd a sut y mae angen iddynt wneud hynny. Mae tystiolaeth bod angen eglurder ar fusnesau o ran y mesurau y mae'n rhaid iddynt eu cymryd i reoli'r risg o groeshalogi alergenau, sydd wedyn yn llywio eu penderfyniad labelu.
 
Er mwyn helpu i ddatblygu ein gwaith ar y mater hwn, mae'r ASB eisiau clywed gan fusnesau, timau bwyd awdurdodau lleol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, elusennau alergeddau, defnyddwyr ac unrhyw bartïon eraill sydd â buddiant trwy ymgynghoriad a chyfres o weithdai ar-lein.
 
Mae'r ASB hefyd yn ceisio safbwyntiau ar ddarparu gwybodaeth ragofalus am alergenau ar gyfer bwydydd heb eu pecynnu ymlaen llaw, fel prydau bwyd sy'n cael eu gweini mewn bwytai, lle gellir rhoi gwybodaeth ragofalus ar lafar – ond weithiau ni ddarperir yr wybodaeth hon o gwbl.
 
Meddai Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r Asiantaeth Safonau Bwyd:  
 
“Mae defnyddwyr wedi dweud wrthym y gall anghysondeb o ran cyflwyno labelu alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau achosi diffyg ymddiriedaeth yn y labeli, a’u hatal rhag gallu mwynhau rhai bwydydd.  
 
“Rydym ni'n gwybod bod gwybodaeth ragofalus am alergenau yn fater anodd i fusnesau ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am orfodi'r gyfraith, ac rydym ni'n awyddus iawn i glywed ganddyn nhw am sut i wneud y gyfraith yn gliriach ac yn haws ei dilyn.
 
“Bydd yr ymatebion a gawn yn helpu i lywio ein camau nesaf wrth greu system ymarferol i fusnesau ei rhoi ar waith, y mae defnyddwyr yn ei deall ac yn ymddiried ynddi.” 
 
Mae'r ymgynghoriad ar wybodaeth ragofalus am alergenau yn agor ar 6 Rhagfyr ac yn para tan 14 Mawrth 2022, a bydd yr ASB hefyd yn casglu barn busnesau, timau bwyd awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am orfodi'r gyfraith, cyrff diwydiant a defnyddwyr trwy gyfres o weithdai manwl. 
 
Gallwch chi gymryd rhan trwy rannu eich safbwyntiau yma: Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL): Ymgynghoriad 'gallai gynnwys' | Yr Asiantaeth Safonau Bwyd